ROWLANDS
,
DAVID
(‘
Dewi Môn
’;
1836
-
1907
),
gweinidog Annibynnol a phrifathro
;
g.
4 Mawrth 1836
yn
Gwenfron
,
Rhosybol
, ger
Amlwch
,
sir Fôn
, o deulu blaenllaw a dylanwadol gyda'r
Methodistiaid Calfinaidd
. Cafodd addysg orau ysgolion y cylch.
Prentisiwyd ef mewn masnachty
yng
Nghaergybi
. Dechreuodd
bregethu
gyda'r
Annibynwyr
yn y
Tabernacl
,
Caergybi
, yn 16 oed. Bu yng
Ngholeg Annibynnol y y Bala
,
1853-6
, ac yn
New College
,
Llundain
,
1856-7
; yna'n
athro cynorthwyol
yng
Ngholeg y Bala
,
1857-8
, a myfyriwr yng
Ngholeg Aberhonddu
,
1858-61
; graddiodd yn
B.A. (Llundain)
ar ddiwedd ei dymor. Bu'n
weinidog
yr
Hen Gapel
,
Llanbrynmair
,
1861-6
,
eglwys yr Annibynwyr Saesneg
,
Trallwng
,
1866-70
, ac
eglwys yr Annibynwyr Saesneg
,
Caerfyrddin
,
1870-2
. Daeth yn
athro
mewn gwahanol adrannau yng
Ngholeg Aberhonddu
,
1872-97
, ac yn
brifathro'r coleg
o
1897
hyd ei f.
7 Ionawr 1907
. Bu'n bleidiwr eiddgar i fudiadau a sefydliadau gwladol, cymdeithasol, cenedlaethol, a chrefyddol ar hyd ei oes lafurus. Yn ystod ei dymor fel
athro cynorthwyol
yn y
Bala
, areithiodd, dadleuodd, ac ysgrifennodd lawer dros fudiad y
Wladfa
;
beirniadodd yn aml yn yr eisteddfod genedlaethol
; bu'n aelod o
bwyllgor addysg sir Frycheiniog
am flynyddoedd, ac yn gefnogydd selog i
Brifysgol Cymru
; efe oedd
cadeirydd
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
yn
1902
. Yr oedd ei waith llenyddol yn amrywiol; bu'n
cydolygu
'r
Dysgedydd
am gyfnod; cydgyhoeddodd gyfrol o bregethau gyda'r
Parch.
D. E.
Jenkins
,
Lerpwl
;
cyfieithodd
‘
Alcestis
’
Euripides
;
golygodd
Telyn Tudno
,
1897
; a
chyhoeddodd ramadeg Cymraeg
,
1897
. Yr oedd yn bersonoliaeth urddasol, yn fonheddwr wrth natur, ac yn fawr ei ddylanwad ar ei fyfyrwyr. Y mae swyn ei gymeriad a chrefyddolder ei ysbryd i'w teimlo yn ei emynau tyner a gyhoeddwyd yn
Y Caniedydd Cynulleidfaol
.
Llyfryddiaeth:
-
Dyddiadur yr Annibynwyr
,
Dolgellau
,
1908
;
-
The Congregational Year Book
, 1846
ff
,
1908
;
-
Who's who?
,
1903
;
-
Album Aberhonddu…o'r flwyddyn 1755 hyd
1880
, 1898
;
-
Y Tyst
,
Ionawr 1907
;
-
Eminent Welshmen
, 1908
;
-
Cardiff Free Libraries, Catalogue of Printed
Literature in the Welsh Department
, 1898
.
Awdur:
Y Parch. John Dyfnallt Owen, M.A., (1873-1956), Aberystwyth