g.
1713
ym
Mhantybeudy
,
Nantgwnlle
,
sir Aberteifi
, mab
Daniel
a
Janet
Rowland
— ei dad yn
dal bywoliaeth
Nantgwnlle
a
Llangeitho
. Addysgwyd ef, medd traddodiad, yn
ysgol ramadeg Henffordd
. Cafodd urdd
diacon
yn
1734
, ac urdd
offeiriad
yn
1735
; bu'n
gurad
i
John
, ei frawd, yn y plwyfi uchod. Priododd,
1734
,
Eleanor
Davies
,
Caerllugest
. Cafodd brofiad ysbrydol dwys dan weinidogaeth
Griffith
Jones
[q.v.]
,
c.
1735
, a dechreuodd
bregethu
gyda nerth gan daranu uwchben y bobl. Lliniarodd ei arddull ar gyngor
Philip
Pugh
[q.v.]
, gan
bregethu
gras yn lle'r ddeddf. Dechreuodd deithio dros y wlad; cyfarfu â
Howel
Harris
[q.v.]
yn
1737
, a chyn hir ymunodd y ddau ynghyd ag eraill i hyrwyddo'r
deffroad mawr Methodistaidd
yng
Nghymru
. Bu anghydfod rhyngddo â
Harris
, a chyhoedodd
Ymddiddan rhwng Methodist Uniawngred ac un Cyfeiliornus
yn ei erbyn yn
1749
. Aeth yn rhwyg yn
1752
, ac ef bellach oedd arweinydd ‘pobl
Rowland
,’ fel y gelwid ei ganlynwyr.
Boddodd
ei frawd yn
Aberystwyth
yn
1760
, a chafodd mab y diwygiwr fywoliaeth
Llangeitho
. Bu'n
gurad
i'w fab am dymor, a
chododd gapel at ei wasanaeth ei hun
gerllaw eglwys y plwyf. Collodd ei le fel
curad
c.
1763
am ryw reswm. Apeliodd plwyfolion
Nantgwnlle
yn ofer am ei gael yn ôl yn
1767
. Dewisodd aros hyd y diwedd, gyda'i bobl yn yr ‘
Eglwys Newydd
,’
Llangeitho
, er cael cynnig bywoliaeth gysurus
Trefdraeth
,
sir Benfro
, yn
1769
. Bu f.
16 Hydref 1790
, a'i gladdu yn
Llangeitho
ar
20 Hydref
, ‘yn 77 oed’ meddai rhestr y plwyf.
Pregethwr
oedd
Daniel
Rowland
yn anad dim, ac am gyfnod maith gwnaeth
Langeitho
yn Feca'r
Methodistiaid
yng
Nghymru
. Tyrrai'r miloedd yno o bob parth ar Sul y Cymun, a dylanwadodd yn drwm ar ysbryd ei oes. Cyhoeddwyd ei bregethau yn llyfrynnu bychain yn
1739
,
1762
,
1772
(dwy gyfrol), a
1775
. Troswyd rhai ohonynt i'r
Saesneg
, a'u cyhoeddi yn
1774
,
1775
, a
1788
.
Canodd nifer o emynau
hefyd ar gyfer y casgliadau cynnar megis
Llwybur Hyffordd i'r Cymru
,
1740
, a
Sail, Dibenion,
etc.
,
1742
. Ceir chwech emyn o'r eiddo yn niwedd
Marw i'r Ddeddf, etc.
,
1743
, 19 yn
Hymnau Duwiol, etc.
,
1744
, a chyhoeddodd gasgliad bychan o
Hymnau Duwiol
yn
1745
. Ei gasgliad olaf oedd
Pum Pregeth ac Amryw o Hymnau
,
1772
. Yr oedd yn
un o arloeswyr yr emyn Cymraeg
cyn dechrau o
William
Williams
[q.v.]
ganu.
Trosodd rai pethau o'r Saesneg i'r Gymraeg
, megis
Y Rhyfel Ysbrydol
(
Bunyan
),
1744
;
Aceldama
,
1759
;
Pymtheng Araith
(
Wetherhall
),
1762
; a
Camni yn y Coelbren
(
Boston
),
1769
.
Ei fab hynaf oedd
JOHN
ROWLAND
;
g.
14 Hydref 1735
, urddwyd yn
ddiacon
1757
, ac
offeiriad
1758
. Ef a gafodd
fywoliaeth
Llangeitho
yn
1760
. Aeth i
Goleg Iesu
,
Rhydychen
, yn
1757
; ni ddywed
Foster
iddo raddio (ac y mae'n galw ei dad yn ‘
John
,’ ac yn dyddio ei ymaelodi yn
1767
); eto priodolir
M.A.
iddo. Yr oedd yn
gurad
Eglwys Fair
,
Amwythig
, yn
1761
, a
churad
Clive
yn
1783-1810
. Gwasnaethodd fel
athro
yn
ysgol Amwythig
,
1771-98
. Bu f.
28 Tachwedd 1815
. Ei wraig oedd
Mary
, merch y
Parch.
William
Gorsuch
,
Amwythig
. Daeth dau o'u plant yn enwog, sef
(
a
)
WILLIAM
ROWLAND
(
1770
-
1851
),
ficer
Eglwys Fair
,
Amwythig
, a
phrebendari
Lichfield
, a
(
b
)
DANIEL
ROWLAND
(
1778
-
1839
),
hynafiaethydd
,
noddydd y celfau cain
, a
dyngarwr
.
Mab arall iddo oedd
Nathaniel
Rowland
[q.v.]
.
Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen /
Llandudoch / Llandybïe