Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ROSS , JOHN ( 1729? - 1807 ), argraffydd a chyhoeddwr llyfrau, etc. , yng Nghaerfyrddin . Ychydig o wybodaeth sydd ar gael am John Ross fel person. Dysgasai ei grefft argraffu yn Llundain , a dechreuodd argraffu yng Nghaerfyrddin yn 1763 (gyda Rhys Thomas ); bu hefyd yn cydargraffu neu gydgyhoeddi ychydig lyfrau â John Daniel yn niwedd y 18fed g. Yn ystod yr hanner can mlynedd y bu'n argraffu y mae'n bosibl iddo gynhyrchu mwy o lyfrau Cymraeg neu Gymreig na holl argraffwyr eraill Cymru a'r goror gyda'i gilydd. Yr oedd rhai o'r cynhyrchion hyn yn helaeth o ran maint a chost, e.e. tri argraffiad o ‘ Feibl Peter Williams .’ Yr oedd John Ross yn Annibynnwr ac yn un o ymddiriedolwyr capel Heol Awst , 1781 , ac yn un o ddau siryf tref Caerfyrddin yn 1785 . Bu f. yn wythnos olaf Awst 1807 , yn 78 oed. Bu ei ferch , ANN SCOTT , yn cadw'r busnes ymlaen am ychydig ar ôl marw ei thad; bu hi f. 24 Medi 1842 yn 107 oed.

Llyfryddiaeth:

  • John Davies , Rhestr o lyfrau argraffedig yng Nghaerfyrddin gan John Ross rhwng y blynyddoedd 1763 a 1807 , Caerfyrddin, 1916 (Caerfyrddin, 1916 ;
  • Ifano Jones , A history of printing and printers in Wales to 1810, and of successive and related printers to 1923. , 1925 (Cardiff, 1925 );
  • Transactions of the Carmarthenshire Antiquarian Society and Field ClubThe Carmarthen Antiquary (yn awr ), 1905 ff , passim ;
  • Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru , a , 1871–5, 1891 (pum cyfrol) , iii, 430;
  • J. Dyfnallt Owen , Hanes Eglwys Heol Awst, Caerfyrddin , 1926 , 25-6.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth.