Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ROGER o GONWY (bu f. 1360 ), brawd o Urdd S. Ffransis . Y mae'n debyg mai brodor o Gonwy ydoedd. Yn y dogfennau Lladin y mae ei enw yn amrywio — Rogerius de Conveney , R. de Conewey Cambrensis , a R. de Chonnoe . Yr olaf ydyw ffurf ei enw yn yr argraffiad o'r unig un o'i weithiau y gwyddys amdanynt. Bu'n efrydydd yn Rhydychen , a chael y gradd, o D.D. Yr oedd yn aelod o Urdd S. Ffransis yn nhalaith (‘custodia’) Caerwrangon , ond yn 1355 cafodd ddiploma gan y pab Innocent VI yn caniatáu iddo ymsefydlu yn nhalaith Llundain . Enwogir ef yn hanes y Ffransisciaid fel awdur traethodyn yn dwyn y teitl, yn ei ffurf argraffedig, Defensio mendicantium . Ysgrifennodd y gwaith hwn mewn ateb i'r traethodyn, Defensio curatorum , gan Richard FitzRalph , archesgob Armagh . Ysgrifennodd Roger ei draethodyn yn 1357 , sef dwy flynedd wedi iddo ymsefydlu yn Llundain . Y pryd hynny ffynnai cryn wrthwynebiad i'r ymarfer o dlodi a chardota ymhlith aelodau'r urdd. Argraffwyd y traethodyn yn gyntaf yn Lyons yn 1494 ; adargraffwyd ef ym Mharis yn 1511 , a cheir ef hefyd yn Monarchia Sancti Romani Imperii , gan M. Goldast , iii.

Llyfryddiaeth:

  • Oxford Dictionary of National Biography a'r awdurdodau a enwir yno;
  • Waddingus , Annales Minorum seu trium Ordinum a S. Francisco institutorum … Editio tertia accuratissima auctior et emendatior … Cura et studio sodalium eiusdem Ordinis , 1931 , 3ydd arg. (cyf. iii);
  • A. G. Little , Studies in English Franciscan History being the Ford lectures delivered in the University of Oxford in 1916 , Manceinion, 1917 , 113, 117.

Awdur:

John James Jones, M.A., (1892-1957), Aberystwyth