ROBIN DDU (fl. c. 1450), cywyddwr

Enw: Robin Ddu
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cywyddwr
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: David James Bowen

Gelwir ef yn Robin Ddu ap Siencyn Bledrydd o Fôn yn rhai o'r llawysgrifau. Priodolir tua 90 o gywyddau iddo, ac y mae llawer ohonynt yn rhai brud. Yn un o'r rhain y mae'r bardd yn ymddiddan â'i lyfr brud, math ar gywydd brud a ganwyd hefyd gan Faredudd ap Rhys a Llywelyn ap Cynfrig Ddu o Fôn. Pleidiwr y Tuduriaid ydoedd, a chanodd farwnad i Owain Tudur. Ymhlith ei gywyddau mwyaf adnabyddus y mae'r cywydd marwnad a ganodd i saith o blant Gruffudd ap Rhys ap Maredudd o Loddaeth, a'i gywydd i'r llong a'i dug i Rufain ar bererindod yn 1450. Canwyd marwnad iddo gan Ifan Môn, un o'i ddisgyblion.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.