ROBERTS
,
WILLIAM
(‘
Gwilym Eryri
’;
1844
-
1895?
),
bardd a golygydd
o
Borthmadog
,
sir Gaernarfon
;
g.
22 Mawrth 1844
ym
Mhorthmadog
yn fab i
David
a
Catherine
Roberts
. Dywedir mai
gwneuthurwr hwyliau
oedd wrth alwedigaeth. Enillodd gryn nifer o wobrwyon am farddoniaeth mewn eisteddfodau lleol ac yn yr
eisteddfod genedlaethol
. Ef oedd
bardd y gadair
yn
eisteddfod genedlaethol Caernarfon
yn
1877
. Yn
1879
golygodd
Lloffion y Flwyddyn
, cyfrol o farddoniaeth a ymddangosasai yng ngholofn farddol yr
Herald Cymraeg
. Ychydig flynyddoedd wedi hyn
golygodd
gyfrol o weithiau
Mary
Davies
[q.v.]
, y
bardd
o
Borthmadog
, dan y teitl
Blodeu Eifion, sef Gwaith Barddonol Mair Eifion
. Cyhoeddwyd tair o awdlau a ddanfonodd i'r gystadleuaeth am y gadair yn yr eisteddfod genedlaethol yn
1884
,
1887
, a
1894
, sef
Awdl ar Gwilym Hiraethog
,
1884
;
Y Frenhines Victoria
,
1887
; a
Hunan Aberth
,
1894
. Ceir hefyd farddoniaeth o'i eiddo yn
N.L.W. MSS. 2126 a 6679
.
Llyfryddiaeth:
-
Edward Davies
,
Hanes Porthmadog
. [1913.]
, 153-5.
Awdur:
Griffith Milwyn Griffiths, M.A., Aberystwyth