ROBERTS
,
WILLIAM
(
1828
-
1872
),
athro yng Ngholeg yr Annibynwyr yn Aberhonddu
;
g.
1 Gorffennaf 1828
yn
Nowlais
, yn fab i
Daniel
Roberts
,
gweinidog
eglwys Annibynnol Bryn Seion
(
H. Egl. Ann.
, ii, 280-1). Aeth i ysgol
Ffrwd-y-fâl
, ac oddi yno (
1845
) i
Coward College
yn
Llundain
; ond symudodd oddi yno bron ar unwaith i
Goleg Caerfyrddin
. Cafodd
ysgoloriaeth
y
Dr.
Williams
yn
1850
, ac aeth
i
Glasgow
, lle y bu am dair blynedd, gan ennill
medal mewn Lladin
; ond torrodd ei iechyd ac ymadawodd heb radd. Yr oedd o duedd
bruddglwyfus
, ac ni hoffai
bregethu
— nid ystyrid mohono chwaith yn bregethwr. Felly, wedi bwrw peth amser fel
athro mewn ysgolion
yn
Lloegr
,
agorodd ysgol ramadeg
yng
Nghaerdydd
. Yn
1856
, ar farw'r
athro
Edward
Davies
[q.v.]
, etholwyd ef yn
athro ieithoedd
yn
Aberhonddu
. Bu'n
gyd-olygydd
i'r
Beirniad
o
1859 hyd 1872
.
Torrodd ei feddwl i lawr
yn
1872
, a bu f. yn
Malvern
9 Mawrth 1872
.
Llyfryddiaeth:
-
Y Beiriniad
, (1) 1859–71; (2)
1911–19
,
1874
;
-
Album Aberhonddu…o'r flwyddyn 1755 hyd
1880
, 1898
;
-
Oriel Coleg Caerfyrddin
, 1909
.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor