ROBERTS, WILLIAM ('Nefydd ' 1813 - 1872), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, cynrychiolydd y British and Foreign School Society yn Neheudir Cymru, argraffydd, eisteddfodwr, llenor.

Enw: William Roberts
Ffugenw: Nefydd
Dyddiad geni: 1813
Dyddiad marw: 1872
Priod: Jane Roberts (née Jones)
Rhiant: Anne Roberts
Rhiant: Robert Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr, cynrychiolydd y British and Foreign School Society yn Neheudir Cymru, argraffydd, eisteddfodwr, llenor.
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 8 Mawrth 1813 yn Bryngoleu, plwyf Llanefydd, sir Ddinbych, mab Robert Roberts, crydd, a'i wraig Anne (gweler NLW MS 7000E am enwau rhai o hynafiaid y rhieni). Ychydig o fanteision addysg a gafodd yn ei ieuenctid. Dysgodd grefft ei dad a symudodd i Landdulas i weithio dros ŵr o'r enw Humphrey Jones. Bedyddiwyd ef yn 1832 gan John Evans, Glanwydden, dechreuodd bregethu ym mis Ionawr 1834, ac yn haf y flwyddyn honno aeth i Lansilin i dderbyn addysg o dan John Williams, awdur Yr Oraclau Bywiol; yr oedd Robert Ellis ('Cynddelw') yn gyd-ddisgybl ag ef.

Yn 1835 ymsefydlodd fel cenhadwr cartrefol yn yr Wyddgrug ac ar 25 Mehefin 1837 ordeiniwyd ef yn fugail eglwys y Bedyddwyr yn Stanhope Street, Lerpwl (gweler NLW MS 7127B ). Priododd Jane, merch Daniel Jones, a oedd (1788 - 1862) yn weinidog y Bedyddwyr yn Crosshall Street, Lerpwl. Yn 1845 symudodd ' Nefydd ' i ofalu am eglwys Salem, Blaenau Gwent, sir Fynwy, lle y treuliodd weddill ei oes trwy lafurio'n galed mewn llu o gyfeiriadau.

Yr oedd yn flaenllaw gydag eisteddfodau fel cystadleuydd a beirniad. Traethodau a ysgrifennwyd ar gyfer eisteddfodau ydyw ei waith cyhoeddedig mwyaf adnabyddus, sef Crefydd yr Oesoedd Tywyll, neu Henafiaethau Defodol, Chwareuyddol, a Choelgrefyddol: yn cynnwys y Traethawd Gwobrwyol yr Eisteddfod y Fenni ar Mari Lwyd … ynghyd a Sylwadau ar lawer o Hen Arferion tebyg i Mari Lwyd (Caerfyrddin, 1852). Sefydlodd ei wasg argraffu ei hunan yn y Blaenau (yn 1864), a bu'n argraffu a chyhoeddi Y Bedyddiwr am bedair blynedd. Bu'n golygu Seren Gomer am flynyddoedd, eithr ni wyddys iddo argraffu mwy nag un rhifyn o'r cylchgrawn hwnnw (NLW MSS 7077-8A, 7079B ). Yr oedd yn flaenllaw yng nghynghorau'r Bedyddwyr. Daeth hefyd yn amlwg mewn cylchoedd addysg, yn enwedig wedi iddo gael ei ddewis (yn 1853) yn gynrychiolydd y British and Foreign School Society yn neheudir Cymru (NLW MS 7096A , NLW MS 7106E , NLW MS 7107C ). Am 11 mlynedd bu'n brysur gyda'r gwaith o sefydlu neu arholi ysgolion a threfnu i addysgu athrawon; bu ganddo ei ' ysgol nos ' ei hun yn Blaenau am ychydig.

Trwy'r holl flynyddoedd hyn yr oedd yn casglu llyfrgell a ddaeth i gynnwys tua 6,000 o gyfrolau printiedig ac amryw lawysgrifau gwerthfawr. Ymhlith y llawysgrifau yr oedd copi o ' Llyfr Coch Asaph ' (NLW MS 7011D ), casgliadau o farddoniaeth hen a diweddar (e.e. NLW MS 7012C , NLW MS NLW MS 7014A , NLW MS 7015D , NLW MS 7016D , NLW MS 7017B ), a dyddiaduron Edmund Jones, Pontypŵ;l (NLW MSS 7021-7030A ). Bu hefyd yn cadw siop lyfrau am gyfnod. Heblaw'r defnyddiau ar hanes y Bedyddwyr a gasglodd ef ei hunan daeth i'w feddiant gasgliad un o haneswyr eraill y Bedyddwyr, sef Ellis Evans, Cefnmawr (a oedd yn weinidog yn Llanefydd pan oedd ' Nefydd ' yn fachgen ieuanc). Ymysg cynnwys y ddwy adran y mae rhai cannoedd o lythyrau gweinidogion a lleygwyr. Aeth rhan o'r casgliad cyfunol yn eiddo J. Spinther James ('Spinther'), a'i defnyddiodd wrth ysgrifennu ei Hanes y Bedyddwyr; bellach y mae ' Cronfa Spinther ' (a brynwyd gan y prifathro J. H. Davies ) a'r gyfran a arhosodd yng nghasgliad 'Nefydd' wedi eu haduno yn Ll.G.C. (Am fanylion ynghylch rhai o'r llyfrau printiedig a gasglasai 'Nefydd' gweler erthygl gan E. I. Williams yn Journal of the Welsh Bibliographical Society, ii, 246-50.)

Bu 'Nefydd' farw 18 Mehefin 1872 a chladdwyd ef ym Mlaenau Gwent ar 24 Mehefin. Buasai ei wraig Jane (Jones) farw yn weddol gynnar wedi iddynt symud o Lerpwl i sir Fynwy; gweddw Jenkin Edwards oedd ei ail wraig. Trosglwyddwyd casgliad llawysgrifau a llythyrau 'Nefydd' i'r Llyfrgell Genedlaethol yn 1930 yn ddwy adran (NLW MS 7011-7175 a NLW MS 7176-7189 ); fe'u dilynwyd yn 1933 gan drydedd adran (NLW MS 7768-7779 ); ac yn 1934 daeth pedwaredd adran (NLW MS 9637-9639 ); am fanylion gweler N.L.W. Handlist of MSS., x, 231-4.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.