ROBERTS, WILLIAM (1773 - 1857), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: William Roberts
Dyddiad geni: 1773
Dyddiad marw: 1857
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Richard Thomas

Hanoedd o ardal Clynnog Fawr (Sir Gaernarfon). Wedi iddo fod am amser gyda'r Bedyddwyr, dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1804, ac ordeiniwyd ef yn 1819. Cyfrifid ef yn ysgrythurwr athrawaidd, ac ef, yn anad neb, a fu'n foddion i sefydlu 'Ysgolion Sul Mr. Charles' yn yr ardaloedd o amgylch Clynnog. Yn 1818 cyhoeddodd ei Arweinydd i Athrawon, ac yn 1845 Traethawd ar yr Ordinhad o Fedydd. Am rai blynyddoedd yr oedd yn ddall; arferai agor y Beibl, ond o'i gof y traethai'r Ysgrythur. Bu farw yn Hendre Bach, 14 Hydref 1857, yn 84 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.