Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ROBERTS , WILLIAM ( fl. 1745 ), bardd ac anterliwtiwr ; g. yn y Mur Llwyd , Llannor , sir Gaernarfon . Bu'n glochydd y plwyf , ac yr oedd yn gyfeillgar iawn â'r ficer , John Owen [q.v.] . Cyhoeddwyd un o'i weithiau, ‘ I Ofyn Pen Rhaw ,’ yn Blodeu-Gerdd Cymry , a cheir englynion ganddo yn Cwrtmawr MSS. 226 a 771 yn Ll.G.C. Ysgrifennodd hefyd anterliwt yn ymosod ar y Methodistiaid , sef Interlude Morgan y Gogrwr ar Cariadogs neu Ffrewyll y Methodistiaid ; cyhoeddwyd hon yn 1745 .

Llyfryddiaeth:

  • Y Brython , 1862 ;
  • J. Jones (‘Myrddin Fardd’) Enwogion Sir Gaernarfon , 1922 ;
  • Llawysgrifau Cwrtmawr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 39 a 559 yn L1.G.C.;
  • G. G. Evans , ‘Yr Anterliwd Gymraeg,’ a T. J. R. Jones , ‘Yr Anterliwt Gymraeg’ (dau draethawd M.A. Prifysgol Cymru, 1938 a 1939 );
  • Robert Jones (Rhoslan) , Drych yr AmseroeddY Llenor (Rhoslan) , 1820; arg. arall [1841]; arg. , yn , xv–xvi, 1898 .

Awdur:

Griffith Milwyn Griffiths, M.A., Aberystwyth