ROBERTS, THOMAS Art (1835 - 1899), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Thomas Roberts
Dyddiad geni: 1835
Dyddiad marw: 1899
Priod: Winifred Roberts (née Jones)
Plentyn: Arthur Rhys Roberts
Rhiant: Jane Powel Roberts
Rhiant: John Powel Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: John Owen

Ganwyd yn y Green, ger Dinbych, 19 Awst 1835, mab John a Jane Powel Roberts. Bu am ychydig yn ysgol Jonah Lloyd, pregethwr gyda'r Annibynwyr; yna am flwyddyn yn was ar ffarm ei ewythr, y Tŷ Draw, ger yr Wyddgrug. Wedi hynny aeth i Ysgol Frutanaidd yn Ninbych. Bu'r athro, Macaulay, yn garedig wrtho. Prentisiwyd ef yn swyddfa Thomas Gee. Bu yno 1850-9, yn gysodydd i gychwyn, yna'n gynorthwywr i Gee fel golygydd. Ysgrifennodd lawer i'r Faner Fach.

Yng nghyfarfod misol Llanelidan, Ionawr 1859, trefnwyd iddo ddechrau pregethu. Bu bum mlynedd yn athrofa'r Bala, gan ymadael fis Ebrill 1864. Colwyn oedd ei ofalaeth gyntaf. Bu yno ddwy flynedd a hanner. Ordeiniwyd ef yn Llangefni, Mehefin 1867. Sefydlwyd ef yn eglwysi Jerusalem, Bethesda, a Thy'nymaes yn Ionawr y flwyddyn honno.

Yn 1870 priododd Winifred, merch i'r Parch. Rees Jones, y Felin Heli; bu iddynt un mab, Arthur Rhys, cyfreithiwr, a fu farw'n gynnar.

Yr oedd yn llywydd y gymdeithasfa yn y Gogledd yn 1893, ac ysgrifennydd cymdeithas gartrefol y Gogledd, 1889-99; cyhoeddid ei adroddiad blynyddol yn atodiad i'r Drysorfa. Yr oedd yn llenor coeth a phregethwr grymus, ac yn efrydydd dyfal o waith Morgan Llwyd.

Bu farw ym Mangor 24 Tachwedd 1899.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.