ROBERTS
,
THOMAS
(‘
Scorpion
’;
1816
-
1887
),
gweinidog gyda'r Annibynwyr
;
g. yn
Ninbych
, bedyddiwyd
25 Awst 1816
, mab
Harri
Roberts
, gŵr o hunan-ddiwylliant nodedig a dreuliodd gryn 20 mlynedd yn y
fyddin
. Prin fu manteision addysg ‘
Scorpion
’ ar y dechrau; bu mewn ysgol a gedwid gan
‘
Caledfryn
’ (
William
Williams
) [q.v.]
yng nghapel y
Methodistiaid Calfinaidd
, ond casglwn mai ei dad fu ei brif hyfforddwr gan iddo golli ei fam ac yntau'n ddim ond 12 oed. Bu am ysbaid yn
brentis o of
. Yn
1837
daeth
‘
Gwilym Hiraethog
’ (
William
Rees
) [q.v.]
yn
weinidog
eglwys Lôn Swan
,
Dinbych
, a chanfu yn ‘
Scorpion
’ gymwysterau ar gyfer y weinidogaeth, a'r haf hwnnw dechreuodd ‘
Scorpion
’
bregethu
. Aeth yn
1839
i'w addysgu ar gyfer coleg at y
Parch.
D. W.
Jones
,
Treffynnon
. Ym mis
Rhagfyr 1841
, yn niffyg lle iddo yng
Ngholeg Aberhonddu
, aeth i
Lanuwchllyn
i ‘ysgol ddarpariadol’
Michael
Jones
[q.v.]
yn un o ddisgyblion cyntaf yr ysgol honno a symudwyd i'r
Bala
Tachwedd 1842
ac a adnabuwyd yn ddiweddarach fel
athrofa'r gogledd
. Tua'r
Nadolig 1842
troes ei wyneb tuag
Aberhonddu
, a cherddodd yno'r holl ffordd gefn gaeaf — awgrym o'r dyfalwch a'r dycnwch a'i nodweddai gydol ei oes. Profodd ei hun yn weithiwr caled yn y coleg a daeth yn fuan yn amlwg fel
llenor
ar bwys ei ysgrifau i'r
Dysgedydd
a'r
Haul
(a olygid gan
‘
Brutus
,’
a roes iddo bob cefnogaeth i ddilorni crach bregethwyr a diaconiaid unbenaethol a elwid gan
Brutus
yn ‘Jacks’ a ‘Lords’). Dywedir iddo yn y cyfnod hwn ogwyddo i gyfeiriad ymuno â'r
Eglwys
, a phosibl fod a wnelo'r gyfathrach â
‘
Brutus
’
â hynny.
Dyma'r pryd hefyd y dechreuodd ddefnyddio'r ffugenw ‘
Scorpion
.’ Yn
1846
derbyniodd alwad i fod yn olynydd i
Michael
Jones
yn eglwys yr ‘
Hen Gapel
,’
Llanuwchllyn
. Cyfnod toreithiog oedd y cyfnod a dreuliodd yno;
cadwai yno ysgol ddyddiol
yn lle ysgol y
Dr.
Williams
a symudasid i'r
Bala
gyda
Michael
Jones
, ac âi cyn belled â
Rhydymain
i
gynnal dosbarthiadau llenyddol
. Yn
Nhachwedd 1848
creodd gyffro mawr drwy'r wlad ben bwy gilydd ag erthygl o'i eiddo yn
Y Dysgedydd
dan y pennawd, ‘
Ocheneidiau'r Weinidogaeth
.’ Ymosodwyd yn chwyrn arno ac amddiffynnwyd ef, os yr un, yn fwy chwyrn, gan ei hen gyd-fyfyriwr,
‘
Ieuan Gwynedd
.’
Fel eraill o
arweinwyr Annibyniaeth
yn ei gyfnod, yr oedd ‘
Scorpion
’ yn ‘
political dissenter
’ hefyd. Bu'n amlwg yn y frwydr yn
Llanuwchllyn
yn erbyn y dreth
Eglwys
. Yn
1856
symudodd i
Drelawnyd
(
Newmarket
) yn
sir y Fflint
, ac yn
1858
i
Lanrwst
. Ymddeolodd yn
1881
a bu f.
12 Mehefin 1887
, a chladdwyd ef ym mynwent y
Santes Fair
,
Llanrwst
.
Cyhoeddodd
Esboniad Cyflawn ar y Testament Newydd
,
Testament Daearyddol
,
Gwaith Barddonol Ieuan Gwynedd
,
Cofiant H. Pugh, Mostyn
(
cydolygydd
),
Cofiant Caledfryn
; a dechreuodd ar gofiant i
‘
Gwilym Hiraethog
,’
a gwplawyd gan
David
Roberts
(
1818
-
1897
) [q.v.]
.
Llyfryddiaeth:
-
R. T. Jenkins
,
Hanes Cynulleidfa Hen Gapel
Llanuwchllyn
, 1937
, 179-85;
-
Y Dysgedydd
,
1887
, 280;
1889
, 343, 385;
1890
, 19;
1895
, 55, 176, 266, 337;
-
Llawysgrifau Scorpion yng Ngholeg Prifysgol
Gogledd Cymru, Bangor
, yn U.C.N.W. 987, 1-25;
-
Album Aberhonddu…o'r flwyddyn 1755 hyd
1880
, 1898
, 140.
Awdur:
Y Parch. Richard Griffith Owen, M.A., (1890-1973), Bangor