ROBERTS, THOMAS (bu farw c. 1775), Bedyddiwr cyntaf ym Môn

Enw: Thomas Roberts
Dyddiad marw: c. 1775
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Bedyddiwr cyntaf ym Môn
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Benjamin George Owens

Y Myfyrian Uchaf oedd ei gartref cyntaf, ond yn Nhrehwfa Fawr gerllaw Rhos-trehwfa ym mhlwyf Cerrig Ceinwen y gorffennodd ei oes. Codwyd ef yn Annibynnwr yn Rhosymeirch, ac yr oedd yn bregethwr cynorthwyol yno, ond yn 1763 (1768 yn ôl Frimston), gyda chymeradwyaeth yr eglwys, fe'i cymhellwyd gan David Jones, Wrecsam, i ddod ato i'w fedyddio ganddo, a daeth yn aelod yno, er ei fod yn dal i fyw ym Môn. Bu farw tua 1775, heb weld bedyddio neb arall o'r sir, ac fe'i claddwyd yn Rhosymeirch. Y mae Spinther yn priodoli iddo lyfryn o'r enw Traethawd am Enaid ac Yspryd yn ôl yr Ysgrythyr a gyhoeddwyd yn 1785.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.