ROBERTS, THOMAS ROWLAND ('Asaph'; 1857? - 1940), cofiannydd

Enw: Thomas Rowland Roberts
Ffugenw: Asaph
Dyddiad geni: 1857?
Dyddiad marw: 1940
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cofiannydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Edward Morgan Humphreys

Ganwyd yn Llanelwy. Bu am flynyddoedd yn glerc mewn swyddfeydd cyfreithwyr yng Nghaernarfon, yn gyfieithydd swyddogol ac yn ysgrifennydd llaw-fer yn y llysoedd. Am ychydig amser, yn 1901, bu yn golygu'r Genedl Gymreig a phapurau eraill y swyddfa honno. Yn 1909 sefydlodd fusnes cyfrifydd ym Mae Colwyn, ac ef oedd ysgrifennydd cyffredinol yr eisteddfod genedlaethol a gynhaliwyd yno yn 1910, ac ym Mangor yn 1915. Bu farw ym Mae Colwyn 16 Mehefin 1940 yn 83 oed, a chladdwyd ef 19 Mehefin, yng nghladdfa Bronynant.

Ef oedd awdur Edmund Prys , 1899; Y Monwyson , 1902; Eminent Welshmen , 1908, sef geiriadur bywgraffyddol am y cyfnod 1700-1900; a Huw Morus (Eos Ceiriog) , 1910. Yn ei Edmwnd Prys, ceir argraffiad hwylus o brydyddiaeth Prys; a bu'r geiriadur bywgraffyddol (gyda'i gyfeiriadau helaeth) yn gymwynas fawr. Am ei weithiau eraill gweler Owen Williams, Awduron Sir Ddinbych a'u Gweithiau, 1937.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.