Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ROBERTS , ROBERT ( 1762 - 1802 ), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ; g. 12 Medi 1762 , mab Robert Thomas a Catherine Jones , y Ffridd Baladeulyn . Aeth yn fachgen i weithio i chwarel y Cilgwyn . Er bod cadw ysgol Sul ac ymgynnull i addoli yn ei gartref, yr oedd bryd Robert ar oferedd. Pan oedd tuag 16 oed ducpwyd ef gan ei frawd John ( John Roberts , 1753 - 1834 [q.v.] ) i oedfa gan David Jones o Lan-gan yng nghapel Brynrodyn , a newidiodd ei gwmni a'i ffordd o fyw. Gadawodd y chwarel hefyd, ac wedi iddo fod beth amser yn gwasnaethu ar fferm Cefn Pencoed symudodd i Goed-cae-du , cartref Richard Jones , y Wern ’ [q.v.] . Siom a cholled fu i'r llanc cydnerth gael adwyth i'w gorff ; yn wir fe danseiliwyd ei iechyd am ei oes gan grydcymalau poenus, a gŵr eiddil a chrwca a safai o flaen cynulleidfaoedd Cymru . Gan na fedrai bellach ateb i'r gwaith ar fferm Coed-cae-du , cymerth gyfnod byr o ysgol dan Evan Richardson [q.v.] ym Mrynengan ond odid, ac wedi iddo briodi cafodd fynd i breswylio i le o'r enw Ynys Galed . Pan ddaeth ton o ddiwygiad crefyddol yn ardal Brynengan teimlodd ysgogiad i bregethu , a bu am gyfnod yn cadw ysgol mewn mannau yn Eifionydd . Gwelodd yn y man mai gormod gorchwyl iddo oedd cyfarfod â gwaith y ddwy swydd, a derbyniodd wahoddiad i wasnaethu'r achos yng Nghapel Uchaf , Clynnog , a phreswylio yn y tŷ-capel . Daeth Robert Roberts yn un o'r sêr disgleiriaf ym mhulpud Cymru . Er eiddiled ei gorff, yr oedd yn llefarwr croyw a naturiol, ac yr oedd ei ddawn areithyddol yn rhyfeddol. Siaradai yn angerdd ei ysbryd megis o fyd arall, ac yr oedd ei sylwadau bachog a thrydanol ynghyd â'i ddisgrifiadau dramatig yn gyfryw nas anghofid hyd byth gan y neb a'i clybu. Bu f. 28 Tachwedd 1802 .

Llyfryddiaeth:

  • Griffith Parry , Cofiant a phregethau y Parchedig Robert Roberts, Clynnog , Pen-y-Groes, 1884 , 1884 ;
  • Owen Thomas , Cofiant y Parchedig John Jones, Talysarn , Efrog Newydd, 1868 , ii. 817;
  • Y Traethodydd , 1846 ;
  • Y Tadau Methodistaidd , 1895 , ii, 34;
  • Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru , 1870 ;
  • Joseph Evans , Biographical Dictionary of Ministers and Preachers of the Welsh Calvinistic Methodist Body…to the close of the year 1850 , 1907

Awdur:

Y Parch. Richard Thomas, B.A. (1872-1950), Caernarfon