Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ROBERTS , RICHARD (‘ Bardd Treflys ’; 1818 - 1876 ) ; mab Thomas Roberts , Garthmorthin , Treflys , rhwng Porthmadog a Chricieth , sir Gaernarfon — yr oedd o deulu Dafydd y Garreg Wen .’ Pan oedd tuag 20 oed aeth i fyw gyda'i ewythr Griffith Roberts , yn y Tŷ Mawr , Treflys , ac yno y treuliodd ei oes, yn ddibriod. Yr oedd yn aelod selog o gymdeithas lenyddol Cefn-y-meusydd — gw. Owen , Ellis . Bu f. 19 Mehefin 1876 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Treflys . Ceir peth o'i waith yn N.L.W. MS. 1010 .

Llyfryddiaeth:

  • R. I. Jones (‘Alltud Eifion’) , Y Gestiana , Tremadog, 1892 (Tremadog, 1892 );
  • Pengryniaid Eifionydd , Blaenau Ffestiniog, 1883 , gan y diweddar Richard Roberts (Bardd Treflys), gyda nodiadau ar hanes bywyd y bardd gan R. Rowland (Blaenau Ffestiniog, 1883 ).

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth