ROBERTS, RICHARD ('Y Telynor Dall, Caernarfon'; 1769 - 1855)

Enw: Richard Roberts
Ffugenw: Y Telynor Dall
Dyddiad geni: 1769
Dyddiad marw: 1855
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Gan fod John Parry ('Bardd Alaw'), yn cyfeirio ato yn 1808 fel telynor da iawn a fuasai'n casglu gwaith y beirdd ers blynyddoedd dylid derbyn 1769, y dyddiad a rydd R. Griffith yn Cerdd Dannau fel blwyddyn ei eni. Dywed 'Meurig Idris' iddo gael ei eni yn Ardudwy, Meirionnydd, ond dywed John Parry ('Bardd Alaw') mai yng Nghefn Mein, Llŷn, y ganwyd ef.

Collodd ei olwg yn 8 oed mewn canlyniad i effeithiau'r frech wen. Dysgwyd ef i ganu'r delyn gan y telynor enwog, 'Wil Penmorfa,' a daeth yn un o delynorion gorau ei gyfnod ar y delyn deir-res. Enillodd y delyn arian yn eisteddfod Wrecsam, 1820, a'r delyn aur yn eisteddfod Dinbych, 1828. Bu'n beirniadu llawer, ac ef oedd prif feirniad eisteddfod y Fenni, 1843, ac eisteddfod Rhuddlan, 1850. Dug allan yn 1829 y Cambrian Harmony yn cynnwys 30 o alawon, 20 ohonynt yn cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf. Dysgodd nifer o delynorion enwog i ganu'r delyn deir-res.

Bu farw 28 Mehefin 1855, a chladdwyd ef ym mynwent Llanbeblig, Caernarfon ar y 4 Gorffennaf 1855, yn 86 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.