ROBERTS, WILLIAM RHYS (1858 - 1929), athro Groeg

Enw: William Rhys Roberts
Dyddiad geni: 1858
Dyddiad marw: 1929
Rhiant: J. Gwilym Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro Groeg
Maes gweithgaredd: Addysg; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Thomas Hudson-Williams

Ganwyd 11 Gorffennaf 1858 yn Wimbledon, mab y Parch. J. Gwilym Roberts. Cafodd ei addysg yn y City of London School a Choleg y Brenin, Caergrawnt, lle'r enillodd amryw o brif wobrau clasurol y brifysgol; bu'n gymrawd o'r coleg hwn, 1882-8. Bu'n athro Groeg yng Ngholeg y Gogledd, Bangor, 1884-1904, ac athro'r clasuron ym Mhrifysgol Leeds, 1904-22. Hoffai ddyfynnu diarhebion Cymraeg yn ei ddarlithiau ym Mangor. Ystyrid ef yn awdurdod ar hanes beirniadaeth lenyddol y Groegiaid, a chyhoeddodd rai o weithiau'r beirniaid (Longinos, Dionysios o Halicarnassos, Demetrios) gydag esboniad. Yr oedd yn Litt.D. (Caergrawnt); derbyniodd hefyd LL.D. (S. Andrews) a D.Litt. Cymru (1921), 'er anrhydedd.' Bu farw yn Peacehaven, 30 Hydref 1929. Yr oedd yn awdur toreithiog; heblaw'r argraffiadau o'r beirniaid llenyddol Groegaidd a enwyd, gwnaeth gyfieithiad o Aristotlys ar retoreg, a llyfr ar hanes Boeotia; cyhoeddodd hefyd lawer o bamffledau ar broblemau dysgu'r clasuron yn y prifysgolion, ac ar addysg yn gyffredinol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.