ROBERTS
,
JOHN PRICE
(
1854
-
1905
),
gweinidog gyda'r Wesleaid, a llenor
;
g.
7 Chwefror 1854
ym
Mhenmachno
, yn fab i
William
a
Catherine
Roberts
. Dechreuodd fel
pregethwr lleyg
yn
1872
, ac wedi bwrw tymor
mewn siop
ym
Manceinion
, cydnabuwyd ef (
1876
) yn ymgeisydd am y weinidogaeth. Bu yng
Ngholeg Richmond
; dechreuodd deithio yng
Nghaernarfon
; ac ordeiniwyd ef yn
Lerpwl
yn
1881
. Ar ôl hynny, gwasnaethodd mewn 12 cylchdaith; bu f. yn
Nhregarth
8 Tachwedd 1905
. Sgrifennai'n fynych i'r
Eurgrawn
;
prydyddai
hefyd, gan
ennill amryw gadeiriau
— canmolir ei bryddest goffa ar
Joseph
Thomas
[q.v.]
,
Carno
.
Cyhoeddodd gofiant Cymraeg
,
1903
, i
Hugh Price
Hughes
[q.v.]
, ac yr oedd yn un o awduron cofiant
John
Evans
,
Eglwysbach
,
1903
.
Llyfryddiaeth:
-
Y Geninen
(Gŵyl Dewi),
1906
, 49-52 (gan
Hugh Evans
, ‘Cynfaen’).
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor