ROBERTS
,
PETER
(
fl.
1578-1646
),
cyfreithiwr a chroniclydd
;
g.
2 Chwefror 1577/8
yn fab i
Robert ap Hywel ap Rhys
o
Fron-yr-wylfa
gerllaw
Llanelwy
, a'i wraig
Agnes
, o deulu
Gruffyddiaid
Gwerneigron
. Tebyg iddo fynd i ysgol ramadeg y cabidwl yn
Llanelwy
. Erbyn
1599
ceir ef yn ‘
notary public
’ yno, ac yn
1624 (30 Mehefin)
penodwyd ef yn
‘proctor’ yn llys yr esgob
. Priododd yn
1606
â
Jane
, un o ferched
David ap Lewis ap Gronw
, o
Feiriadog
, ac yn un o dai
Meiriadog
y bu fyw hyd
1622
, pan fu f. ei dad a gadael digon o arian iddo i godi'r
Fron Goch
gerllaw; cafodd fab a phedair merch. Ni wyddys pa bryd y bu f., ond deil i gofnodi digwyddiadau hyd
ddiwedd 1646
. Y mae'n hysbys fel
awdur
Y Cwtta Cyfarwydd
, casgliad hynod ddiddorol o fanion hanes yr ardaloedd o amgylch
Llanelwy
, yn ymestyn o
1607 hyd 1646
; golygwyd hwn gan
D. R.
Thomas
[q.v.]
yn
1883
.
Llyfryddiaeth:
-
Rhagymadrodd
D. R. Thomas
i
Y Cwtta Cyfarwydd
, Llundain, 1883
.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor