ROBERTS
,
MORRIS
(‘
Morris ap Robert
’; bu f., meddir, yn
1723
),
bardd gwlad a saer
o
Dynllidiart
,
Llanuwchllyn
, a fu wedyn yn byw yn y
Bala
.
Annibynnwr
oedd ef, a merch iddo oedd gwraig y
cynghorwr Methodistaidd
John
Evans
o'r
Bala
[q.v.]
. Cofnodwyd nifer o hanesion amdano, ac yn enwedig am ei dduwioldeb, yn
Y Brython
(
Tremadog
),
Y Gwyliedydd
,
Llyfryddiaeth y Cymry
, a
Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru
. Cadwyd enghreifftiau o'i
farddoniaeth
, yn ganu caeth a rhydd, mewn llawysgrifau; yn eu plith ceir cywydd ar
Ddydd y Farn
, cywydd i
Lyn Tegid
, englynion crefyddol, ac englynion ymddiddan rhyngddo a
Richard John
Jenkin
. Cadwyd hefyd nifer o'i ganeuon rhydd, y mwyafrif ar destunau crefyddol a moesol; ceir chwech ohonynt yn
Blodeugerdd Cymry
. Argraffwyd peth o'i waith gan
O. M.
Edwards
yn
Beirdd y Berwyn
a
Beirdd y Bala
(
Cyfres y Fil
). Argraffwyd yn
Nhrefeca
yn
1793
, flynyddoedd lawer wedi ei farw, gan
William
Thomas
,
gweinidog yr Annibynwyr
yn y
Bala
, draethawd crefyddol o'i waith,
Cyngor i'r Cymry mewn Deuddeg o Bennodau
.
Llyfryddiaeth:
-
Cardiff Manuscript
64;
-
Llawysgrifau Cwrtmawr yn Llyfrgell Genedlaethol
Cymru, Aberystwyth
128, 216, 222, 225, 226, 230, 448, 463;
-
Llawysgrifau Plas Nantglyn yn Llyfrgell
Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
3;
-
Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol
Cymru
432, 436, 559, 645, 700, 783, 1238, 1287, 4697, 4971, 6146, 6882, 7892, 10252, 14402;
-
Swansea Manuscript
2;
-
Morris ap Robert
,
Cyngor i'r Cynmry mewn deuddeg o bennodau 1.
Am y Gorchymynion, 2. Am yr addewidion, 3. Am Alwedigaeth,
4. Am anufudd-dod, 5. Am y bygythion, 6. Am amynedd Duw, 7.
Am ddigofaint Duw, 8. Am gofio Gair Duw, 9. Yr amser y
dylid ei gofio, 10. Y hudd o'i gofio, 11. Y perygl o
beidio, 12. Cymhwysiad … ynghyd â rhai caniadau o waith yr
awdwr
, Trefecca, 1793
(Trefeca, 1793);
-
D. Jones
,
Blodeu-Gerdd Cymry
, 1759
,
1779
, 96, 175, 438, 453, 472, 474;
-
Y Brython
,
1860
, 265, 270;
-
Y Gwyliedydd
,
1823
, 273;
-
W. Rowlands
,
Llyfryddiaeth y Cymry
, Llanidloes,
1869
,
1869
, 674;
-
T. Rees
,
Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru
, i, 401;
-
O. M. Edwards
,
Beirdd y Berwyn, 1700-1750
,
Llanuwchllyn, 1903?
, 9-24;
-
Beirdd y Bala.
Cyfres y Fil 28,
1911
, 9.
Awdur:
Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni