ROBERTS, MICHAEL (1780 - 1849), Pwllheli, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Michael Roberts
Dyddiad geni: 1780
Dyddiad marw: 1849
Rhiant: Roberts
Rhiant: John Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Richard Thomas

Mab i John Roberts (Llangwm); ganwyd yn Llanllyfni, Arfon. O'r flwyddyn 1802 gwnaeth ei gartref ym Mhwllheli a chadwai ysgol yno. Dechreuodd bregethu yn 1798 ac ordeiniwyd ef yn 1814. Nid oedd, mwy na'i ewythr Robert Roberts (Clynnog), yn gryf o gorff, ond fel hwnnw, cymerth ei le ymhlith pregethwyr blaenaf ei oes. Yr oedd o feddwl praff a'i ddull o bregethu, yn enwedig ar brydiau, yn rymus, trydanol, a hyrddiol. Cyfrifid iddo yng nghymdeithasfa Llanidloes (1810) argyhoeddi mil o bobl. Bu'r amhariad a ddaeth ar ei feddwl am 12 mlynedd o'i oes (1836-48) yn loes a cholled i genedl gyfan. Yn anffodus ni fu tymor ei adferiad ond ychydig fisoedd. Bu farw 29 Ionawr 1849, yn 68 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.