ROBERTS
,
LEWIS JONES
(
1866
-
1931
),
arolygydd ysgolion, cerddor, ac eisteddfodwr
;
g.
29 Mai 1866
yn
Aberaeron
,
sir Aberteifi
, mab
Lewis
Roberts
a'i wraig
Margaret
(
Jones
)
. Cafodd ei addysg yng
Ngholeg Dewi Sant
,
Llanbedr-pont-Steffan
(
B.A.
) a
Choleg Exeter
,
Rhydychen
(
M.A.
); yr oedd yn aelod o
Gymdeithas Dafydd ab Gwilym
pan oedd yn
Rhydychen
. Priododd,
1888
,
Mary Noel
Griffiths
merch
capten
a
Mrs.
Griffiths
,
Old Bank
,
Aberaeron
; bu iddynt dair merch a chwe mab. Bu'n
ddarlithydd
am gyfnod yn ei hen goleg yn
Llanbedr-pont-Steffan
— hanes oedd y pwnc y rhoesai sylw arbennig iddo yn
Rhydychen
— ac yna daeth yn un o
arolygyddion ysgolion
yng
Nghymru
, yn
Aberystwyth
i gychwyn ac yna yng
ngogledd Cymru
(gan fyw yn y
Rhyl
ac, yn ddiweddarach, yn
Llandudno
); maes o law fe'i trosglwyddwyd i
sir Forgannwg
, a bu'n byw am tua saith mlynedd yn
Abertawe
cyn ymddeol a dychwelyd i fyw yn
Aberaeron
. Yr oedd yn
eisteddfodwr
pybyr; bu'n
beirniadu mewn eisteddfodau cenedlaethol
yn fynych. Am tua 30 mlynedd bu'n cydweithredu gyda
J. M.
Howell
,
Aberaeron
, i
baratoi carol Nadolig
i'w chyhoeddi bob blwyddyn yn
Cymru (O.M.E.)
— y geiriau gan
Howell
a'r gerddoriaeth gan
Roberts
; gofalai am gerddoriaeth
Cymru
a
Cymru'r Plant
. Ceir carolau o'i waith mewn newyddiaduron hefyd, a chyhoeddwyd llawer ohonynt ar wahân (yng
Nghaernarfon
, etc.). Fe'i coffeir hyd heddiw fel
cyfansoddwr
y dôn (i blant ac oedolion) ar y geiriau sy'n dechrau ‘
Bydd canu yn y nefoedd
.’ Cyhoeddodd lyfryn ar
Owen Glyndwr
(
Wrexham
,
1904
, ac argraffiadau eraill); golygodd
Awelon o Hiraethog
, i (
Dinbych
,
1908
), yn cynnwys detholiad o weithiau barddonol
William
Rees
(‘
Gwilym Hiraethog
’)
. Ceir llythyrau ganddo yn
NLW MS. 2810, 2826, 6270, a 7994
, a darn o gerddoriaeth o'i waith (er cof am
Syr
Owen M.
Edwards
) yn
N.L.W. MS. 2119
. Bu f.
20 Rhagfyr 1931
, a chladdwyd ef ym mynwent
Henfynyw
gerllaw
Aberaeron
.
Llyfryddiaeth:
-
Who's who in Wales
(Cardiff,
1921)
;
-
Western Mail
,
22 Rhagfyr 1931
;
-
The Welsh Gazette
,
24 Rhaefyr 1931
;
-
E. Alfred Jones
(gol.),
Memorials of Old North Wales
, Llundain,
1913
(London,
1913
);
-
Cymru
, lx, lxii, lxv, lxvii, lxix-lxxii.
Awdur:
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952),
Aberystwyth