ROBERTS
,
JOHN
(
1842
-
1908
),
un o genhadon y Methodistiaid Calfinaidd ar Fryniau Khassia, India, am 37 mlynedd
;
g.
16 Chwefror 1842
yng
Nghorris
(
Meirion
), mab
Richard
a
Jane
Roberts
. Oherwydd marwolaeth ei dad, aeth
John
, pan oedd yn 11 oed, i
weithio yn y chwarel
, ond yr oedd eisoes wedi penderfynu mynd yn
genhadwr
. Yn 21 oed, dechreuodd
bregethu
. Aeth i
Goleg y Bala
ac yna dilynodd gwrs meddygol byr yn
Edinburgh
; ar
6 Ionawr 1871
fe'i hordeiniwyd. Ar
31 Mai
priododd
Sidney Margaret
, merch i
Thomas
Jones
(‘
Glan Alun
’) [q.v.]
. Hwyliodd y ddau ar
27 Medi 1871
am yr
India
gan ymsefydlu yn
Shella
. Ymhen pum mlynedd symudasant i
Cherrapoongee
, lle y arosasant. Fel arloeswr âi
John
Roberts
ar deithiau hir a pheryglus i
bregethu'r efengyl
; arferai weinyddu fel
meddyg
ar filoedd,
cychwynnodd ysgolion
a'u cadw,
sefydlodd goleg diwinyddol
yn
Cherra
a phenodwyd ef yn
brifathro
arno. Meistrolodd yr iaith
Khassi
yn fuan ac yn gywir, ac ef oedd â'r prif ran yn y gwaith o
ddiwygio'r cyfieithiad o'r Testament Newydd
a oedd mewn bod, ac o
gyfieithu'r Hen Destament
; a chyda chymorth
ei wraig paratodd y
Beibl
Khassi
newydd i'r wasg,
1897
. Yn ystod ei seibiant dewiswyd ef yn
llywydd y gymanfa gyffredinol
(
1897
), ond brysiodd yn ôl i
Khassia
cyn llenwi'r gadair i gynorthwyo ei bobl a oedd yn dioddef o achos daeargryn ofnadwy; bu
Roberts
yn
llywydd y gymanfa
yn
Llanelli
(
1907
), fodd bynnag. Yn ystod tymor glawog
1908
, eithriadol hyd yn oed yn
Cherra
, trawyd yr ardal â'r
colera
. Ymladdodd
Roberts
yn ei erbyn yn ddiymatal er ei fod ef ei hun yn cwyno yr un adeg. Hyn a diffyg triniaeth briodol llawfeddyg, a barodd ei farwolaeth gynamserol ar
23 Gorffennaf 1908
. Bu f.
Mrs.
Roberts
9 Chwefror 1931
ym
Mangor
,
sir Gaernarfon
. Ganed iddynt bum mab a phum merch.
Llyfryddiaeth:
-
R. J. Williams
,
Y Parchedig John Roberts, D.D., Khasia
,
Caernarfon, 1923
;
-
llythyrau Dr. a Mrs. Roberts yn
Y Drysorfa
a chylchgronau eraill;
- adroddiadau blynyddol Cymdeithas Genhadol y Methodistiaid Calfinaidd;
-
J. Hughes Morris
,
Hanes Cenhadaeth Dramor y Methodistiaid
Califinaidd Cymreig hyd ddiwedd y flwyddyn 1904
,
Caernarfon, 1907
;
- adnabyddiaeth bersonol.
Awdur:
Mrs. Dorothy Elwyn Forrester, M.A., Aberystwyth