ROBERTS, ISAAC (1829 - 1904), seryddwr

Enw: Isaac Roberts
Dyddiad geni: 1829
Dyddiad marw: 1904
Priod: Ffrances Roberts
Rhiant: William Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: seryddwr
Maes gweithgaredd: Gwyddoniaeth a Mathemateg; Y Gofod a Hedfan
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 27 Ionawr 1829, yn fab i dyddynnwr o'r enw William Roberts, Groes-bach, Groes, ger Dinbych. Prentisiwyd ef yn 1844 gyda chwmni o adeiladwyr yn Lerpwl; yn nes ymlaen, bu ganddo yntau fusnes adeiladu a dalodd yn dda iawn iddo; ymddeolodd yn 1888. Ond mewn gwyddoniaeth yr oedd ei wir ddiddordeb - mewn daeareg ar y cychwyn, ond ar ôi 1878 mewn seryddiaeth.

Symudodd (1882) o Rock Ferry i Maghull (Lerpwl), ac wedyn i Crowborough (Sussex) yn 1890 - bob tro er mwyn cael cyfle ar delescop mwy a gwell, a chliriach wybren. Tynnodd filoedd o ffotograffau o sêr ac o 'nebulae.'

Etholwyd ef yn F.R.S. yn 1890, a chafodd radd D.Sc. gan Brifysgol Dulyn yn 1892, a bathodyn aur y Royal Astronomical Society yn 1895. Bu farw'n ddisyfyd 17 Gorffennaf 1904.

Trefnodd i'w gyfoeth, pan fyddai farw ei weddw (yn 1901 y priododd a Ffrances a oedd fel yntau'n awdurdod ar seryddiaeth) gael ei rannu rhwng Prifysgol Lerpwl a Choleg y Gogledd ym Mangor, i sefydlu ysgoloriaethau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.