ROBERTS
,
ROBERT HENRY
(
1838
-
1900
),
gweinidog y Bedyddwyr a phrifathro Coleg Regent's Park, Llundain
;
g. yng
Nghaerfyrddin
yn
1838
, yn fab i
John Nathan
Roberts
,
gwerthwr offer haearn
yn y dref a
diacon
yn y
Tabernacl
. Bu'n fyfyriwr yng
Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin
o
1852 i 1857
, ac yng
Ngholeg y Bedyddwyr
,
Bryste
, o hynny hyd
1859
, pryd y graddiodd yn
B.A.
o
Brifysgol Llundain
. Ordeiniwyd ef yn
Bootle
,
1861
, symudodd i
Cornwall Road
,
Notting Hill
,
Llundain
, yn
1869
, ac oddi yno yn
1891
i
Goleg Regent's Park
, yn
brifathro
ac
athro diwinyddiaeth
. Ymddiswyddodd yn
1896
, a bu f. yn
Folkestone
,
16 Ebrill 1900
. Etholwyd ef yn
llywydd
Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr ac Iwerddon
yn
1892
. Ysgrifennodd (1)
Prayer and Contemporary Criticism. Five Sermons
,
1873
, a
gyflwynwyd i aelodau
Cornwall Road
; (2)
The Witness of the Bible
,
1892
ei araith o
gadair yr Undeb
; a (3)
The Spiritual Mind
,
1902
, dan olygiaeth ei fab, y
Parch.
J. E.
Roberts
,
Manceinion
.
Llyfryddiaeth:
-
Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru
10329;
-
E. Pan Jones
,
Oriel Coleg Caerfyrddin
, 1909
, 77;
-
Baptist Handbook
,
1901
(llun);
-
The Baptist Magazine
, 1809–1904
,
1891
, 1 (darlun);
1900
, 249;
-
Eminent Welshmen
, 1908
;
-
British Museum. Catalogue of Printed
Books
, 1882
.
Awdur:
Benjamin George Owens, M.A., Aberystwyth
Brawd iddo oedd
FREDERICK
ROBERTS
(bu f.
28 Gorffennaf 1918
),
meddyg
,
athro meddygiaeth
yn
University College
,
Llundain
, ac
awdur llawlyfr meddygol
a aeth i ddeg arg.; cafodd
D.Sc. er anrhydedd
gan
Brifysgol Cymru
yn
1910
. (
Who was Who
.)
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor