ROBERTS, GRIFFITH ('Gwrtheyrn '; 1846 - 1915), llenor a cherddor

Enw: Griffith Roberts
Ffugenw: Gwrtheyrn
Dyddiad geni: 1846
Dyddiad marw: 1915
Plentyn: Margaret Ellen Hughes (née Roberts)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor a cherddor
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Cerddoriaeth; Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 7 Hydref 1846 yn yr Hendre-bach, Gwytherin. Heb gael ond ychydig ysgol, aeth yn 10 oed i Ysbyty Ifan, yn brentis gwehydd, a manteisiodd yn ddirfawr ar y gymdeithas lenyddol a cherddorol a flodeuai ym Mhentrefoelas yn y dyddiau hynny. Bu wedyn am ysbaid yng ngwasanaeth ' Gwilym Cowlyd ' (W. J. Roberts) yn Llanrwst; ond dychwelodd at wehydda. Wedi priodi (1869) aeth i fyw i dŷ-capel Cwmtirmynach, ac ar ôl hynny i Gefnddwysarn, gan weithio yn y ffatrioedd gwlân yn y ddau le; ond yn 1877 penodwyd ef a'i briod yn ofalwyr y tloty yn y Bala, a bu yn ei swydd hyd ryw ddwy flynedd cyn ei farwolaeth, 20 Ionawr 1915. Yr oedd yn ddyn amryddawn, wedi ei ddiwyllio ei hunan i fesur helaeth iawn. Ar un cyfnod, bu'n ddatgeiniad o gryn fri, a bu ar hyd ei oes yn weithgar gyda cherddoriaeth y cylch y bu fyw ynddo. Mewn llenyddiaeth, yr oedd wedi ei ddisgyblu ei hunan yn drwyadl yn y mesurau caethion; ond er iddo gyhoeddi, 1873, Caneuon Gwrtheyrn, eto fel athro barddol yn hytrach nag fel bardd y rhagorai - bu'n gefn mawr i feirdd ym Mhenllyn, e.e. i ' Ddewi Havhesp ' (David Roberts), a sgrifennodd yn Y Brython (Lerpwl) ar hen feirdd y cywydd. Dengys ei lawysgrifau, sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol, led ei ddiddordeb yn hen lenyddiaeth ei wlad. Mewn maes cwbl wahanol, cyhoeddodd lyfr bychan ond gwir ddefnyddiol, Pum Plwy Penllyn, 1897, hanes gweinyddiad Deddfau'r Tlodion ym Mhenllyn o 1720 hyd 1897. Teilwng yw nodi hefyd ei fedr eithriadol fel hyfforddwr plant a ieuenctid mewn darllen ac adrodd a chanu.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.