ROBERTS, GRIFFITH (1735 - 1808), meddyg, a chasglwr llawysgrifau

Enw: Griffith Roberts
Dyddiad geni: 1735
Dyddiad marw: 1808
Priod: Margaret Roberts
Plentyn: William Roberts
Plentyn: Griffith Roberts
Rhiant: Robert Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg, a chasglwr llawysgrifau
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Meddygaeth
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd yn 1735 (bedyddiwyd 6 Medi) yn Isallt, Penmorfa, Eifionydd, yn fab i Robert Roberts (1707 - 1769); gweler yr ach yn J. E. Griffith, Pedigrees, 359; y mae'r teulu (cainc o deulu Cesail Gyfarch) yn hynod am y nifer eithriadol (30, medd rhai) o feddygon a hanoedd ohono. Meddyg (a breswyliai yn y Plas Isa, Dolgellau) oedd Griffith Roberts yntau, ond fe'i cofir yn hytrach fel casglwr hen lawysgrifau Cymraeg - bu rhai o'n llawysgrifau pwysicaf yn ei feddiant, a rhoes fenthyg rhai ohonynt i olygyddion The Myvyrian Archaiology of Wales . Bu farw 28 Rhagfyr 1808. Yr oedd ei fab, Griffith (a fu farw yn Nolgellau yn 1815) yntau'n feddyg ac yntau'n ymhel â llawysgrifau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.