ROBERTS, EVAN (1718 - 1804), o Drefeca,

Enw: Evan Roberts
Dyddiad geni: 1718
Dyddiad marw: 1804
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

a ddaeth i'r Teulu yn 1757 wedi bod yn gweithio yng ngwaith plwm y Mwynglawdd. Gydag Evan Moses a James Pritchard, yr oedd yn un o'r tri ymddiriedolwr a osododd Harris ar y Teulu; ei swydd neilltuol ef oedd trin busnes y sefydliad. Bu farw yn 1804 (claddwyd 5 Mehefin), yn 86 oed. Gweler Richard Bennett yn Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, vii, 4-10, a M. H. Jones, ibid, ix, 45.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.