ROBERTS, ELIS (bu farw 1789), cowper, baledwr, ac anterliwtiwr

Enw: Elis Roberts
Dyddiad marw: 1789
Priod: Ellen Roberts
Priod: Grace Roberts
Priod: Elizabeth Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cowper, baledwr, ac anterliwtiwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Cerddoriaeth; Perfformio; Barddoniaeth
Awdur: Gruffydd Glyn Evans

O blwyf Llanddoged ger Llanrwst. Ni wyddys fan na blwyddyn ei eni; o Feirion hwyrach y daeth i Landdoged. Yng nghofrestrau plwyf Llanddoged ceir cyfeiriad pendant at ' Ellis Roberts Cooper and Elizabeth his Wife' o dan 1753. Ni ellir bod yn sicr mai yr un yw'r ' Ellis Robert and Ellen his wife' y cofnodir bedyddio plant iddynt rhwng 1742 a 1748. O 1765 Grace yw enw gwraig Elis Roberts. Dan 1 Rhagfyr 1789 cawn ' Ellis Roberts was buried.' Mewn cerdd ' i ofun troull Bach,' 1767 (Cwrtmawr MS 46A ), cyfeiria Elis at ei deulu, ei dlodi, ac, yn hanner edifeiriol, at ei oferedd. O'i waith, erys baledi (gweler J. H. Davies, Bibliog. of Welsh Ballads), anterliwtiau, a chyfres o naw 'llythyr' (e.e. ' Difrifol fyfyrdod ar Farwolaeth, sef y Pumed Llythyr Ystyriol am Wellhad buchedd y Ddaeirol Bererindod … gan Elis Roberts o Llanddoged Prydydd a Chowper') - gweler o dan Roberts, Edward. Y mae o leiaf naw o'i anterliwtiau ar gael: (a) mewn llawysgrif - ' Argulus,' cyfansoddwyd c. 1756; ' Jeils,' c. 1757; ' Oliffernes a Jiwdath,' 1766; ' Tair Rhan Oes Dyn,' cyn 1771; ac anterliwt olaf, 1789; (b) yn argraffedig - Gras a Natur, 1769; Y Ddau Gyfamod, 1777; Pedwar Chwarter y Flwyddyn, cyfansoddwyd 1787; Cristion a Drygddyn, 1788. Fel anterliwtiwr yr oedd mor doreithiog a hysbys â ' Twm o'r Nant.' Y mae ei chwaraeon cyntaf yn ddifyr a llawn o'r serthedd traddodiadol. Dan gymhelliad crefyddol gorlwythodd ei anterliwtiau olaf â moesegu traethodol. Er ei hoffter o efengyleiddio yn ei ddramâu, yr oedd yn elyn i'r Methodistiaid. Dengys ei weithiau ddiffyg crebwyll fel prydydd a deuolrwydd fel person. Hysbys yw cyfeiriadau difriol Goronwy Owen (yn ei lythyrau) ato; gweler hefyd Morris Letters, i, 330.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.