Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ROBERTS , EDWARD ( fl. ddiwedd y 18fed g. ), golygydd , o'r Tynewydd , Cefnddwysarn , ger y Bala . Yn 1794 golygodd gyfrol o gyfansoddiadau amrywiol dan y teitl Casgliad Defnyddiol o waith Amryw Awdwyr . Prif gynnwys y gyfrol oedd naw o lythyrau a gyfansoddwyd gan Ellis Roberts (‘ Elis y Cowper ’) [q.v.] fel anogaeth grefyddol i'w gydwladwyr. Ceid ynddi hefyd reolau ynglŷn â darllen ac ysgrifennu Cymraeg gan Thomas Jones , hanes gweledigaeth Richard Brightly , ymddiddanion crefyddol, a chyfieithiad o gân grefyddol gan Ralph Erskine .

Llyfryddiaeth:

  • W. Rowlands , Llyfryddiaeth y Cymry , Llanidloes, 1869 , 685.

Awdur:

Griffith Milwyn Griffiths, M.A., Aberystwyth