Cywiriadau

ROBERTS, DAVID ('Dewi Havhesp'; 1831 - 1884), bardd

Enw: David Roberts
Ffugenw: Dewi Havhesp
Dyddiad geni: 1831
Dyddiad marw: 1884
Rhiant: Margaret Roberts
Rhiant: Robert Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd ym mis Mai 1831 ym Mhen'singrug, Llanfor - rhed nant Hafesb, yr ymenwodd arni, drwy'r llan hwnnw; ef oedd yr hynaf o 11 plentyn Robert Roberts, gŵr o Landrillo, a'i wraig Margaret, a oedd yn ŵyres i'r emynydd William Edwards ac felly'n un o deulu Robert William o'r Pandy. Teiliwr oedd wrth ei grefft; gyrfa annosbarthus a helbulus a gafodd; bu'n byw am ychydig yng Nghefnddwysarn, ond wedyn gan mwyaf yn Llandderfel, lle y bu farw 27 Awst 1884 ac y claddwyd ef. Cyhoeddodd yn 1876 gyfrol fechan, Oriau'r Awen, a argraffwyd deirgwaith - y tro diwethaf yn 1927. Ystyrid ef, gan wŷr fel ' Dyfed ' ac ' Anthropos,' yn un o englynwyr mwyaf campus Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

ROBERTS, DAVID ('Dewi Havhesp')

Ym Mhenrhos y ganwyd ef - pan oedd yn faban y symudodd ei rieni i Ben'singrug. Yn y tloty yn y Bala y bu farw.

    Dyddiad cyhoeddi: 1970

    Cywiriadau

    Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

    Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.