ROBERTS
,
CADWALADR
(bu f.
1708/9
),
bardd
o
Gwmllech Uchaf
,
Pennant Melangell
,
sir Drefaldwyn
. Yr oedd yn gyfoeswr i
Huw
Morys
o
Bont-y-meibion
yn
Nyffryn Ceiriog
, a dengys y gerdd ymddiddan rhyngddynt eu bod mewn cysylltiad agos â'i gilydd; ceir copïau lled niferus o'r gerdd hon yn y llawysgrifau.
Canodd ryw bum carol plygain
, ac argraffwyd un ohonynt yn
Blodeu-Gerdd Cymry
gan
Ddafydd
Jones
o
Drefriw
. Cyhoeddwyd ei gerdd ddychan i'r
frech wen
yn yr un gyfrol. Canodd hefyd gerddi gofyn, ac y mae'r un i ofyn telyn i
Siôn
Prys
gan
Wiliam
Llwyd
o
Langedwyn
o ddiddordeb cymdeithasol (
Cwrtmawr MS. 128 (122)
). Yr oedd ganddo'i gerddlyfr ei hun yn cynnwys cerddi ac englynion o waith rhai o'i gyfoeswyr, ‘
Llyfr Cadwaladr Roberts, 1676
’ (
Cwrtmawr MS. 227
). Nodir y tonau uwchben copïau o'i gerddi yn y llawysgrifau.
Bardd
anghelfydd ydoedd, a gwnâi ddefnydd helaeth o ffurfiau llafar. Cofnodwyd ei gladdu
14 Chwefror 1708/9
yng nghofrestr
Pennant Melangell
. Ceir ‘C.R. 1665’ uwchben ffenestr bwthyn yng
Nghwmllech
. Dywedir fod y bardd yn hanu o deulu
Robertiaid
Branas
yn
Edeirnion
.
Ffynonellau:
-
Collections Historical and Archaeological
relating to Montgomeryshire
, xii, 67,81;
-
An Inventory of the Ancient Monuments in
Wales and Monmouthshire. 1 - County of Montgomery
(1911)
, 108;
-
R. Williams
,
Montgomeryshire Worthies
(1894)
;
-
Blodeu-Gerdd Cymry
(1759)
;
-
Eos Ceiriog, sef Casgliad o Bêr
Ganiadau
(1823)
,
1823
;
- cofnodion esgobaeth Llanelwy, yn Ll.G.C.;
-
Llawysgrifau Cwrtmawr yn Llyfrgell Genedlaethol
Cymru, Aberystwyth
122, 128, 227;
-
N.L.W.
Llawysgrif Wynnstay yn Llyfrgell Genedlaethol
Cymru, Aberystwyth
5 (10, 53, 80, 84, 89, 107);
- Lloyd papers 59 (Coleg y Gogledd);
-
gwybodaeth gan y
Dr. T. Richards
, Bangor.
Awdur:
Yr Athro David James Bowen, M.A., Aberystwyth