Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ROBERTS , Mynydd-y-gof , Bodedern , Môn .

Mab oedd DAVID ROBERTS ( 1788? - 1869 ) i John a Catherine Roberts , Aberalaw , Llanfachraeth ; ym mhlwyf Llanddeusant yr oedd gwreiddiau'r teulu. Prentisiwyd ef i feddyg yng Nghaergybi , ac wedi bwrw tymor gyda meddyg yn Llundain , dychwelodd i Fôn ac ymsefydlodd fel meddyg ac amaethwr ym Mynydd-y-gof . Priododd yn 1815 â Sarah Foulkes ( 1788 - 1879 ), ferch Thomas Foulkes [q.v.] o Fachynlleth a nith i Simon Lloyd [q.v.] o'r Bala . Cyfrifid mai ef, ymhell cyn diwedd ei oes, oedd pen blaenor y Methodistiaid Calfinaidd ym Môn ; dyn difrif, cynnil ond nid cybyddlyd, tipyn o deyrn efallai — ar ryw olwg, ymgorfforiad o hen Fethodistiaeth yr ynys. Bu f. 12 Ionawr 1869 ‘yn ei 81 mlwydd’ meddai ei fab Robert , a chladdwyd yn Llanfachraeth . Cafodd deulu mawr (gw. J. E. Griffith , Pedigrees , 383 — ond nid yw'r plant yn yr iawn drefn yno) o 10 o blant; bu mab a merch farw'n blant, ond tyfodd wyth mab i oedran ( Y Drysorfa , 1870 , 428-9, 466-9, a'r gyfrol Mynydd-y-gof ). Geilw tri o'r meibion am sylw:


(1) JOHN ROBERTS ( 1817 - 1902 ), yr ail fab, masnachwr . Aeth i Fanceinion yn 1838 ; yn nes ymlaen ( 1847 ) cychwynnodd ef a'i frawd Hugh y ffyrm lwyddiannus iawn ‘ J.F. and H. Roberts .’ Fel ei dad, yr oedd yn ŵr hynod gydwybodol; cymerth Samuel Smiles yn hyfforddwr, ac ymdrechodd i'w ddiwyllio ei hunan — dysgodd Roeg . Nid oedd yn Gymreigiwr, a throes at yr Annibynwyr Saesneg , ond ni bu'n ôl o gynorthwyo Cymry Manceinon , a dug fawr sêl dros addysg yng Nghymru — o'r cychwyn cyntaf hyd ei f. (30 mlynedd), bu'n un o ddau is-lywydd Coleg Aberystwyth . Cymerth ran flaenllaw ym mywyd cyhoeddus ei ddinas ; a bu'n arglwydd faer yn 1896-7 Bu f. 5 Tachwedd 1902 ( Mynydd-y-gof ; ysgrifau coffa yn y Wasg). Gyda'r Annibynwyr Saesneg y magwyd ei fab


FREDERICK ROBERTS ( 1862 - 1894 ), cenhadwr meddygol . Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Manceinion , yng Ngholeg Aberystwyth , ac yn Edinburgh , lle y graddiodd mewn meddygiaeth . Yn 1887 aeth i China , yn gyntaf i gynorthwyo James Gilmour ym Mongolia ond wedyn yn Tien-tsin , lle y bu f. Mehefin 1894 — aeth ei chwaer MARY ROBERTS allan ato yn 1888 . Bu wedyn yn gofalu am yr ysbyty a alwyd ar enw ei brawd; bu hi f. yn 1933 ( E. Lewis Evans , Cymru a'r Gymdeithas Genhadol , 154-5).


(2) ROBERT ROBERTS ( 1828 - 1916 ), y chweched mab, yntau'n fasnachwr ym Manceinion ; cychwynnodd fusnes ar ei gyfrifoldeb ei hunan yno yn 1855 , ond tua 1870 rhoes y gorau iddo ac o hynny hyd 1885 gweithredai fel ‘ agent .’ Nid yw ef mor adnabyddus o lawer â'i ddau frawd arall a gofnodir yma, ond ar ryw olwg y mae'n fwy diddorol na hwy, fel awdur y gyfrol ddi-enw ac anghyhoedd, Mynydd-y-gof, or the History of a Welsh Calvinistic Methodist Family , 1905 , sydd nid yn unig yn hunangofiant ac yn hanes ei deulu ond hefyd yn ddogfen werthfawr ar Fethodistiaeth Môn a'i harweinwyr yn hanner cyntaf y 19eg g. ac ar y bywyd Cymreig ym Manceinion Bu f. 28 Ionawr 1916 (gwybodaeth gan ei ŵyres; Mrs. Bulman ).


(3) Syr WILLIAM ROBERTS ( 1830 - 1899 ), yr wythfed o'r brodyr, meddyg ; g. 18 Mawrth 1830 . Aeth i ysgol Mill Hill a Choleg y y Brifysgol yn Llundain ; graddiodd yn 1851 ( M.D. 1854 ), ac astudiodd ym Mharis a Berlin ; etholwyd ef yn F.R.S. yn 1877 . Ymsefydlodd ym Manceinion yn 1854 ; o 1855 hyd 1883 bu'n brif feddyg yr ysbyty yno, ac o 1863 hyd 1889 yn athro meddygiaeth yn y coleg sydd bellach yn Brifysgol Manceinion . Yn 1889 symudodd i Lundain . Cafodd bob anrhydedd sy'n agored i feddyg . Anhwylderau'r arennau oedd ei brif faes, ond gwnaeth gyfraniadau pwysig i wybodaeth ar bynciau meddygol eraill, yn enwedig mewn ffisioleg . Ers 20 mlynedd cyn ei f. yr oedd wedi prynu stad y Bryn yn Llan-ym-Mawddwy , lle y byddai'n hafota; yno bu f. 16 Ebrill 1899 , a chladdwyd ym mynwent y llan. ( D.N.B. , atodiad cyntaf; Trans. Cymm. , 1932-3 , gyda rhestr o'i bapurau; Mynydd-y-gof .)

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor