ROBERTS, BARTHOLOMEW [ JOHN yn wreiddiol] (1682? - 1722), môr-leidr

Enw: Bartholomew Roberts
Dyddiad geni: 1682?
Dyddiad marw: 1722
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: môr-leidr
Maes gweithgaredd: Gwrthryfelwyr
Awdur: William Jenkyn Thomas

Ganwyd yn sir Benfro. Yn 1718 yr oedd yn ail fêt ar y Princess, llong a gymerwyd trwy rym gan Howel Davis, môr-leidr arall o Gymro; gorfu i Roberts wasnaethu o dan yr hwn a'i cymerodd yn garcharor. Pan laddwyd Davis etholwyd Roberts yn gapten y llong - yr oedd eisoes, yng nghorff chwech wythnos, wedi ei ddangos ei hun yn ŵr dewr a sgilgar. Wrth dderbyn y cynnig i fod yn gapten y llong dywedodd y byddai'n well bod yn bennaeth nag yn forwr cyffredin ac yntau eisoes wedi dipio ei law mewn dwfr lleidiog. Daeth amlygrwydd yn fuan. Hwyliodd tuag at lynges o 42 o longau o Portiwgal ac wedi iddo ddarganfod pa long oedd y gyfoethocaf, byrddiodd hi a'i chymryd i ffwrdd. Cyn bo hir yr oedd ei ofn ym mhobman. Pan aeth i borthladd yn Newfoundland ffôdd criwiau 22 o longau rhagddo a'u gadael. Wedi sbeliau o lwyddo, âi'r môr-ladron i'r lan am gyfnodau mewn lleoedd fel Surinam a Sierra Leone, gan fyw mewn cyfeddach a thrythyllwch nes deuai eu hadnoddau i ben. Nid oeddynt yn cael llwyddiant di-dor, fodd bynnag; ar un adeg o leiaf bu'n ddrwg iawn arnynt o ddiffyg bwyd a dŵr i'w yfed. Un o'r rhai cyntaf a gymerwyd gan Roberts a'i bobl oedd llong ar lun ffrigat yn perthyn i'r Royal African Company. Wedi iddo ei dal, ailenwodd Roberts hi a'i galw y Royal Fortune. Llwyddodd y Capten Chaloner Ogle, R.N., i'w gorfodi hi i ddyfod i frwydro gerllaw Cape Lopez.

Lladdwyd Roberts (10 Chwefror 1722) a thaflwyd ei gorff i'r môr, a holl wisgoedd gwych y môr-leidr amdano, yn ôl ei ddymuniad. Yr oedd yn rhaid i gapteiniaid llongau môr-ladron fod yn wrol, ond yr oedd beiddgarwch anturus Roberts yn rhywbeth eithriadol. Mewn haen o gymdeithas a oedd yn yfed yn drwm, ac yn ddihidio os oedd eisiau tywallt gwaed, yr oedd ef yn gymharol gymedrol a thrugarog.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.