Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ROBERTS , JOHN ASKEW ( 1826 - 1884 ), hynafiaethydd, awdur, a newyddiadurwr ; g. yng Nghroesoswallt , mab Samuel Roberts , llyfrwerthwr . Yn 1848 yr oedd yn ysgrifennu i Oswald's Well , cylchgrawn a ddilynwyd yn 1849 gan yr Oswestry Advertiser , a gychwynnwyd gan Askew Roberts yn fisolyn, ac wedyn yn wythnosolyn, ac y bu'r cychwynnydd mewn cysylltiad ag ef am 20 mlynedd. Wedi iddo werthu hawlfraint yr Advertiser ac ymneilltuo o'r swydd o olygydd , parhaodd Roberts i gyfrannu i'w golofnau o bryd i bryd hyd 1871 , pryd y dechreuodd ofalu am y golofn hynafiaethau , a elwid Bye-Gones , a ddaeth i'w chysylltu mwyach ag enw Roberts , ac a ymddangosodd am gyfnod hir, gan gael ei hailgyhoeddi yn rhannau chwarterol. Un o'r ysgrifenwyr mwyaf cyson i Bye-Gones oedd W. W. E. Wynne , Peniarth , sir Feirionnydd [q.v.] , ysgolhaig a hynafiaethydd y cydweithiodd Roberts ag ef i ddwyn allan argraffiad 1878 o lyfr Syr John Wynn , Gwydir , sef History of the Gwydir Family . Cyhoeddodd Roberts hefyd Contributions to Oswestry History 1881 ; Wynnstay and the Wynns , 1876 ; a gwaith a gafodd gylchrediad eang, sef The Gossiping Guide to Wales . Gydag Edward Woodall golygodd The Pictorial Itinerary, an Illustrated Guide to the Railways and Coach-Roads of North Wales ( Oswestry , 1882 ). Ysgrifennai i gyhoeddiadau'r Shropshire Archaeological Society a'r Powys-land Club . Heblaw'r Advertiser cychwynnodd, 1860 , The Merionethshire Standard , a ymgorfforwyd yn y Cambrian News yn ddiweddarach. Bu f. 10 Rhagfyr 1884 , yn 58 oed.

Llyfryddiaeth:

  • Bye–Gones, relating to Wales and the Border Counties , 1884 , 146, 151, 184, 267;
  • Archaeologia Cambrensis , 1885 . 75-6.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

ROBERTS , JOHN ASKEW ( 1826 - 1884 ; Bywg. , 816) g. 27 Mawrth 1826 .