Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



RICHARD , TIMOTHY ( 1845 - 1919 ), ‘Un o'r cenhadon mwyaf a anfonwyd gan unrhyw ran o'r Eglwys Gristionogol i China’ ; g. yn Ffaldybrenin 10 Hydref 1845 , mab Timothy ac Eleanor Richard . Bedyddiwyd ef yn 1859 a daeth yn aelod o eglwys y Bedyddwyr , Caeo . Wedi iddo fod am gyfnod yn athro ysgol aeth i Goleg y Bedyddwyr , Hwlffordd , yn 1865 , ac yn 1869 anfonwyd ef i China gan Gymdeithas Genhadol y Bedyddwyr . Llafuriodd yn China , gydag ysbeidiau anaml ym Mhrydain , o 1870 hyd 1915 — ar y cyntaf yn Chafoo , wedyn yn Shantung a Shansi , ac yna, yn Shanghai , pan ddewiswyd ef ( 1891 ) yn ysgrifennydd y ‘ Chistian Literature Society of China. ’ Ymddiswyddodd yn 1915 a bu f. yn Llundain ar 17 Ebrill 1919 .

Y mae'n amhosibl rhoddi hyd yn oed fraslun o'i weithrediadau a'i weithgareddau amrywiol ac amlochrog a'r dylanwad eang a gafod ei lafur. Yr oedd yn arloeswr fel cenhadwr , yn ddyngarwr , yn wladweinydd cenhadol , yn ysgolhaig , yn addysgydd , yn awdur , yn ŵr cyhoeddus, ac yn gyfaill a chynghorwr tywysogion a gwerinwyr; yr oedd enw ‘ Li T'i-mo-tai ’ yn adnabyddus ym mhob rhan o China . Cafodd rai o anrhydeddau uchaf China , e.e. yr oedd yn Fandarin o'r radd uchaf ac yn aelod o Urdd y Ddraig Ddwbl . Cafodd radd Ll.D. (‘er anrhydedd’) Prifysgol Cymru ( 1916 ); yr oedd hefyd yn D.D. a Litt.D. [Gw. hefyd Richards , Jedediah .]

Priododd (1), 1878 , Mary Martin (bu f. 1903 ), a bu iddynt bedwar o blant, a (2), yn 1914 , Dr. Ethel Tribe , a oroesodd ei gŵr.

Llyfryddiaeth:

  • Timothy Richard , Forty-five Years in China reminiscences , Llundain, 1916 ;
  • W. E. Soothill , Timothy Richard of China, seer, statesman, missionary & the most disinterested adviser the Chinese ever had , Llundain, 1924 ;
  • E. W. Price Evans , Timothy Richard a narrative of Christian enterprise and statesmanship in China , Llundain, 1945? .

Awdur:

Y Parch. Edward William Price Evans, M.A., (1887-1972), Pontypŵl