Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



RICHARD , THOMAS ( 1783 - 1856 ), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ; g. 11 Chwefror 1783 , yn Nhre-fin , sir Benfro , mab, Henry a Hannah Richard . Brawd iddo oedd Ebenezer Richard [q.v.] . Daeth o dan argraffiadau crefyddol yn ieuanc, ac ymunodd â'r seiat yn Nhre-fin . Dechreuodd bregethu yn 1803 , a daeth i sylw cyn hir dros Gymru gyfan fel pregethwr nerthol. Ordeiniwyd ef yn sasiwn Llangeitho , 1814 . Priododd, 1819 , Bridget Gwyn , Maenorowen , nith i ail wraig David Jones , Llan-gan . Bu'n cadw fferm mewn amryw leoedd ar ôl priodi, ond ymsefydlodd yn Abergwaun c. 1824 — 5 , ac yno y trigodd weddill ei oes. Bu f. 3 Ionawr 1856 , a'i gladdu ym Maenorowen . Yr oedd yn un o brif bregethwyr ei oes. Yr oedd rhyw bereidd-dra yn ei lais a barai i'r werin ddotio arno; gallai daranu'n arswydus hefyd, a'r elfen yna ond odid a'i gwnâi'n gymaint o deyrn yn ei ddydd, yn enwedig yn sir Benfro . Cyhoeddwyd ei bregethau yn ddwy gyfrol gan Edward Matthews [q.v.] yn 1866-7 .

Llyfryddiaeth:

  • Y Drysorfa , 1856, 68 ;
  • E. Matthews , Bywgraffiad y Parch. Thos. Richard, Abergwaen nodiadau arno fel dyn, Cristion, a phregethwr , Abertawe, 1863 , 1863 .

Awdur:

Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe