RICHARDS
,
THOMAS
(
c.
1710
-
1790
),
clerigwr a geiriadurwr
.
Ni wyddys pa le y ganwyd ef, ond yn ôl cofnodion
esgobaeth Tyddewi
fe'i hurddwyd yn
ddiacon
yn
1733
ac yn
offeiriad
yn
1734
. Yna cafodd
guradiaeth
S. Ismael
a
Llansaint
yn
sir Gaerfyrddin
, a bu yno hyd
1738
. Yna yn
1742
fe'i trwyddedwyd yn
gurad parhaol
yn
Llangrallo
a
Llanbedr-ar-fynydd
. Wedi hynny, yn
1777
, cafodd
ficeriaeth
Eglwysilan
, ond ni bu'n byw yn y plwyf hwnnw. Yn
Llangrallo
yr arhosodd hyd ei farw yn
1790
. Bu'n briod ddwywaith, a cheir cofnodion am fedyddio ei blant yng nghofrestri
Llangrallo
. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf yn
1746
, sef
cyfieithiad
o lyfr
Saesneg
Philip
Morant
,
Creulonderau ac Aerlidigaethau Eglwys Rufain
. Yna aeth ati i
gyfieithu gramadeg a geiriadur Cymraeg-Saesneg
y
Dr.
John
Davies
yn
Gymraeg
, gan ychwanegu geiriau a welsai yng ngwaith
Edward
Lhuyd
, yn argraffiad
Wotton
o gyfreithiau
Hywel
Dda
(
1730
), ac mewn hen eirfâu, yn ogystal â llawer o eiriau a glywid yn nhafodiaith
Morgannwg
. Fe'i cyhoeddwyd yn
1753
, a daeth argraffiad arall allan yn
1759
. Wedi hynny bu'n ychwanegu ato, a chyhoeddwyd hysbysiad yn
1790
, ychydig fisoedd cyn ei farw, yn dywedyd fod y gwaith yn barod i'r wasg. Bu hefyd yn cydweithio â'i gymydog, y
Dr.
John
Richards
,
rheithor
y
Coety
, yn
casglu defnyddiau at eiriadur Saesneg-Cymraeg
,
a bu'n
diwygio geiriadur Saesneg-Cymraeg
William
Evans
,
1771
, fel yr eglurir ar ddalendeitl yr ail argraffiad yn
1812
. Yr oedd yn gohebu â
Richard
Morris
, a chafodd ei eiriadur gryn sylw gan y
Morysiaid
a hefyd gan
Oronwy
Owen
, er bod yr olaf yn bur feirniadol ohono. Er hynny, cyflawnodd
Thomas
Richards
gryn wasanaeth. O'r diwedd, cafodd llenorion
Cymru
na ddeallent
Ladin
gyfle i astudio gramadeg y
Dr.
John
Davies
, ac yr oedd y geiriadur yn rhoddi iddynt gyfle i ddeall geirfa'r cywyddwyr. Dyma lyfr a oedd wrth benelin y beirdd pan oeddynt yn cyfansoddi awdlau a chywyddau yn
ail hanner y 18fed g.
Ac ef oedd un o'r rhai a enynnodd ddiddordeb
‘
Iolo Morganwg
’
yn llên
Cymru
, ac yn arbennig yng ngeirfa'r iaith. Yn ôl ei ewyllys, gadawodd ei lyfrau a'i lawysgrifau i
Edward
Thomas
,
ysgwïer
Tre-groes
ym mhlwyf
Llangrallo
. Ni wyddys pa beth a ddaeth ohonynt, ond mynnai
‘
Iolo
’
mai yn y llawysgrifau hynny y darganfu amryw o'i ffugiadau, megis
Brut Aberpergwm
, a rhai o'r cywyddau a dadogodd ar
Ddafydd ap Gwilym
.
Llyfryddiaeth:
-
G. J. Williams
,
Iolo Morganwg a Chywyddau'r
Ychwanegiad
, 1926
,
1926, 168-9
, a
Traddodiad Llenyddol Morgannwg
,
1948
,
1948, 300-9
.
Awdur:
Athro-Emeritus Griffith John Williams, M.A., (1892-1963),
Gwaelod-y-garth, Caerdydd