Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



RICHARDS , THOMAS ( 1687? - 1760 ), clerigwr ac awdur ; Yn ôl Foster , g. ef yn Llanychaearn (Cered.) , yr fab i Richard Richards , ond y mae'n bosibi ei fod yn aelod o deulu Richards , Coed , gerllaw Dolgellau (gw. Richards , Caerynwch ). Cafodd ei addysg yng Ngholeg Iesu , Rhydychen (ymaelodi 27 Mawrth 1708 , yn 19 oed, graddio yn 1711 ); dywedodd Dr. Trapp , athro barddoniaeth ym Mhrifysgol Rhydychen , ei fod yn ystyried Richards y bardd Lladin gorau er adeg Fyrsil . Dewiswyd ef yn rheithor y Drenewydd , sir Drefaldwyn , 1713 , yn ganon Llanelwy , 1718 , ac yn rheithor segur-swydd Llansannan yn 1720 (a Phennant Melangell , 1725 ); cafodd reithoraeth Llanfyllin yn 1718 a'i chadw hyd y bu f. a'i gladdu yno yn 1760 . Cyfieithodd yn Gymraeg amryw o ganeuon poblogaidd Lloegr , cyhoeddodd farwnad Ladin i'r frenhines Caroline ( London , 1737 ), Pregeth ar S. Luc ii, 10, 11 ( London , 1727 ), a phregeth a draddododd ar 28 Ebrill 1732 , yn y Drenewydd , ar farw Lady Pryce , gwraig Syr John Pryce , Newtown Hall ( 1732 ). Cyhoeddwyd yn Philosophical Transactions of the Royal Society lythyr ganddo ar bwnc y tân a fu ym Morfa Harlech , 1694 . Yr oedd erbyn 1759 yn aelod gohebol o Gymdeithas y Cymmrodorion (a ffurfiwyd ym mis Medi 1751 ). Eithr ei waith mwyaf adnabyddus, serch ei fod yn brin, ydyw ei gân dychan, yn Lladin , wedi ei theitlo Χοιροχωρογραφία sive Hoglandiae Descriptio ( London , 1709 ), a ysgrifennwyd i wrthateb i Muscipula ( London , 1709 ), llyfryn gan E. Holdsworth yn difrïo Cymru a'i phobl. Cyhoeddodd hefyd wrthateb arall, gyda fersiwn Saesneg o dan y teitl Hogland: or a description of Hampshire. A Mock Heroic Poem in answer to Mr. Holdsworth's Muscipula ( London , 1709 ) (ail arg. yn 1728 ). Rhydd J. H. Parry (yn The Cambrian Plutarch , 344) hanes y modd y bu i Richards ymgymryd â'r gwaith o ateb y dychanwr Seisnig .

Llyfryddiaeth:

  • Foster , Alumni Oxonienses ;
  • R. Williams , Montgomeryshire Worthies , ail arg., 1894 ;
  • Thomas , A History of the Diocese of St. Asaph , i, 365, 547; ii, 56, 234, 264;
  • ‘Dictionary of Welsh Biography.’ 27 cyf., N.L.W. MSS. 9251–77 .

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth