RICHARDS, DAVID MORGAN (1853 - 1913), newyddiadurwr ac eisteddfodwr

Enw: David Morgan Richards
Dyddiad geni: 1853
Dyddiad marw: 1913
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: newyddiadurwr ac eisteddfodwr
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 25 Gorffennaf 1853 ger Llannonn (Ceredigion); addysgwyd mewn ysgol ramadeg yn Aberystwyth, a bu'n athro yn Ysgol Frutanaidd Llwyncelyn ger Aberaeron. Yn 1872, aeth i wasanaeth y ffordd haearn rhwng Hirwaun a Phontypŵl, ond yn 1886 ymsefydlodd yn Aberdâr fel cynrychiolydd y Merthyr Express, a'r South Wales Daily News wedyn. Gwnaeth waith mawr yn y dref, yn enwedig gyda'r mudiadau Cymraeg; a chyhoeddai almanac blynyddol y mae ynddo lawer o wybodaeth am hanes Aberdâr. Ond cofir ef yn bennaf am y Rhestr Eisteddfodau hyd 1901, a gyhoeddwyd yn 1914 ar ôl ei farwolaeth; llyfr defnyddiol iawn - hyd at 1823 y mae nid yn unig yn rhestr ond hefyd yn llyfryddiaeth, a chynnwys y gyfrol hefyd bennod ar ' Hen Eisteddfodau Aberdâr ' a nodiadau ychwanegol ar eisteddfodau Cymru hyd at 1860. Bu farw 2 Mehefin 1913.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.