Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



RICHARDS , JOHN (bu f. 1808 ), gweinidog y Bedyddwyr yng Nghastellnewydd Emlyn ; Anhysbys yw dyddiad ei eni, ond preswyliai ym Mlaengwyddon . Fe'i hurddwyd yng Nghastellnewydd ddiwedd 1778 . Ef a ddechreuodd bregethu yn Llwyndafydd yn 1778 , a symbylu'r gwrandawyr i godi capel yn 1779 . Ef a fedyddiodd y saith cyntaf yn yr ‘ Engine ’ ( Glandŵr , Abertawe ) a'u corffori'n eglwys yn 1780 . Bugeiliai Soar , Llandyfn , 1793-5 . Yng nghwrdd chwarter Chwefror 1796 cyflwynodd gynllun i addysgu pregethwyr ieuainc . Cyhoeddodd farwnad i David Powell y Notais yn 1797 . Bu gyda'r Bedyddwyr Cyffredinol am saith mlynedd, ond dychwelodd yn 1807 , a bu f. cyn cymanfa 1808 .

Llyfryddiaeth:

  • Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru , 1930 , 1931 , 1932 (62), 1942 (16);
  • W. J. Rhys , Hanes Dinas Noddfa, Glandwr , 1934 , 20;
  • D. Jones , Hanes y Bedyddwyr yn Neheubarth Cymru , 1839 , 112, 125, 349, 404.

Awdur:

Y Parch. William Joseph Rhys, (1880-1967), Gelli, Rhondda / Treherbert