Cywiriadau

RICHARDS (TEULU), Coed, a HUMPHREYS (TEULU), Caerynwch, ger Dolgellau, Sir Feirionnydd.

Unwyd y ddau deulu hyn ar 7 Hydref 1785 pan briododd Syr Richard Richards (isod), Coed, a Catherine, merch ac aeres Robert Vaughan Humphreys, Caerynwch; golygai'r briodas uno'r ddwy stad hefyd. Yn ddiweddarach, sef yn 1863, priododd Richard Meredyth Richards (isod), Louisa Janette Anne, merch ac aeres Edward Lloyd Edwards, Cerrigllwydion, plwyf Llanynys, sir Ddinbych. Yr oedd teulu Edwards â chysylltiad rhyngddo a theuluoedd Evans, Tanybwlch, Price (Corsygarnedd), Lloyd (Brithdir), ac Edwards (Dolserau) - i gyd yn Sir Feirionnydd (N.L.W. Schedule of Caerynwch and allied documents).

Pan ymwelodd Lewis Dwnn â Chaerynwch yn 1588 (Heraldic Visitations, ii, 235), rhoddwyd ach y teulu iddo gan TUDOR VYCHAN (Tuder Vaughan ap David Lloyd yn nogfen Caerynwch 996, wedi ei dyddio 23 Medi 1588). Claddwyd ROBERT VAUGHAN, Caerynwch, y trydydd o ran disgyniad o Tudor Vychan, yn Nolgellau ar 30 Gorffennaf 1693. Yr oedd ei wraig ef, Margaret, yn ferch Robert Vaughan, Hengwrt, yr hynafiaethydd. Priododd GRACE VAUGHAN, merch ac aeres Robert Vaughan, Caerynwch, â JOHN HUMPHREYS ar 9 Tachwedd 1698. Gor-ŵyres Grace oedd CATHERINE, unig ferch ROBERT VAUGHAN HUMPHREYS (siryf Meirionnydd, 1760), a hyhi a ddaeth yn wraig Syr RICHARD RICHARDS (1752 - 1823), barnwr, ' baron of the Exchequer,' ac felly'n cael cyfeirio ato'n fynych fel y ' Baron Richards.'

Ganed Syr Richard Richards ar 5 Tachwedd 1752, mab Thomas Richards, Coed, a'i wraig Catherine, chwaer William Parry, warden ysgol Rhuthyn, sir Ddinbych. Cafodd ei addysg yn ysgol Rhuthyn, yng Ngholeg Iesu (ymaelodi ar 19 Mawrth 1771), ac yng Ngholeg Wadham, Rhydychen (B.A., 10 Hydref 1774; cymrawd o'r Queen's College, 20 Mehefin 1776; M.A. 15 Gorffennaf 1777). Daeth yn fargyfreithiwr (Inner Temple) ar 11 Chwefror 1780. Aeth i'r Senedd y tro cyntaf dros Helston, Cernyw. Ceir manylion ei yrfa yn y D.N.B.; dyma rai o'r ffeithiau - ei ddewis yn brif farnwr sir Gaerleon ('county palatine') ar 17 Mai 1813, rhoi y swydd honno i fyny pan ddewiswyd ef yn farwn y Trysorlys, ei wneuthur yn farchog yn 1814, a'i ddewis yn arglwydd brif farwn y Trysorlys yn 1817. Bu farw yn Llundain 11 Tachwedd 1823 a'i gladdu yn naeargell gladdu yr Inner Temple.

O'i briodas â Catherine Humphreys bu i'r barwn Richards wyth mab a dwy ferch. Ganed y mab hynaf, RICHARD RICHARDS (1787 - ?) ar 22 Medi 1787, cafodd ei addysg yn Ysgol Westminster ac yn Christ Church, Rhydychen, a daeth yn fargyfreithiwr (Inner Temple) yn 1812. Cafodd wahanol swyddi ym myd y gyfraith, a gorffen yn ' Master in Ordinary in Chancery ' (1841). Bu'n aelod seneddol dros sir Feirionnydd (1836-52); yr oedd hefyd yn un o ddirprwy-raglawiaid y sir. Priododd, 1814, Harriet, merch Jonathan Dennett. Bu farw yn Caerynwch, 27 Tachwedd 1860. Yr oedd ei frodyr, ROBERT VAUGHAN RICHARDS a GRIFFITH RICHARDS yn fargyfreithwyr (Q.C.'s, ac yn ' benchers ' yn 1839). Chwaer iddynt oedd Jane, a briododd y Parch. Temple Frere, caplan Tŷ'r Cyffredin (Burke, Peerage).

Daeth RICHARD MEREDYTH RICHARDS (1821 - 1873), mab Richard Richards, A.S., yn fargyfreithiwr yn 1845 a gwnaethpwyd ef yn gadeirydd chwarter sesiwn Sir Feirionnydd yn 1857. Priododd (1), Elizabeth Emma, merch William Bennett, Farringdon House, swydd Berks., a (2), Louisa Janette Anne, unig ferch ac aeres Edward Lloyd Edwards, Cerrigllwydion, sir Ddinbych

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Cywiriadau

RICHARDS a HUMPHREYS (TEULUOEDD)

30 Medi 1785 oedd dyddiad y briodas a'u hunodd. Hefyd, 1689 (nid 1698) oedd dyddiad priodas Grace Vaughan a John Humphreys.

    Dyddiad cyhoeddi: 1970

    Cywiriadau

    Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

    Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.