Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



RICHARDS , DAVID (‘ Dafydd Ionawr ’; 1751 - 1827 ), athro a bardd ; g. yn Glanymorfa , treftadaeth fechan yn ymyl Tywyn , Meirionnydd , 22 Ionawr 1751 , yn fab i John ac Anne Richards . Pan oedd yn 16 (neu'n 14 yn ôl N.L.W. MS. 2735 ) daeth Evan Evans (‘ Ieuan Brydydd Hir ’) yn gurad i Dywyn , ond ni all hyn fod yn wir, canys rhwng 1772 a 1777 yr oedd ef yn gurad yno. Cafodd ‘ Dafydd Ionawr ’ yn Ieuan Brydydd Hir athro barddol . Ar gais Ieuan Brydydd Hir ,’ cydsyniodd ei dad a danfon ei fab i ysgol Ystradmeurig , at Edward Richard , ac yno y rhagorodd mewn mathemateg a'r clasuron. Daeth ‘ Dafydd Ionawr ,’ felly, dan ddylanwad dau o feirdd ac ysgolheigion mwyaf y 18fed g. Cafodd swydd athro yn ysgol C. A. Tisdaile yn Wrecsam , ac yn 1774 aeth i Goleg Iesu , Rhydychen , ond ni fu yno ond am un tymor. Aeth eilwaith yn athro at Tisdaile , a oedd erbyn hyn yn brifathro ysgol ramadeg yng Nghroesoswallt . Yn 1779 cafodd le is-athro yn ysgol ramadeg Caerfyrddin ; yn yr un flwyddyn gwrthodwyd urddau iddo gan esgob Llandaf ; yn nechrau 1790 cafodd le athro yn ‘ ysgol rad Tywyn ’ (efallai hen ysgol rad Llanegryn ). Symudodd i Ddolgellau , 1794 . Ar farwolaeth ei dad daeth holl eiddo ei rieni iddo ( 1798 ), a throsglwyddodd ei hawl ar ei etifeddiaeth i'w gyfaill Thomas Jones , ar yr amod y câi dreulio gweddill ei oes gyda'r teulu. Bu'n athro ysgol ramadeg Dolgellau , 1800-7 . Bu f. 12 Mai 1827 , a chladdwyd ef yn Nolgellau .

Dyma restr o'i lyfrau: Cywydd y Drindod , 1793 ; Hanes Bywyd Dafydd Ionawr , ‘broadside’ ar fesur rhydd yn disgrifio ei daith i gasglu enwau tanysgrifwyr i'w gywydd, a'i fethiant; Y Mil-Blynyddau , 1799 ; Gwaith Prydyddawl , 1803 ; Joseph, Llywodraethwryr Aipht , 1809 ; Barddoniaeth Gristianogawl , 1815 ; Cywydd y Diluw, yn dair Rhan , 1821 ; Cywydd y Drindod , 1834 ; Gwaith Dafydd Ionawr. Dan Olygiad y Parch. Morris Williams, M.A., Amlwch , 1851 .

Llyfryddiaeth:

  • Yn argraffiad ‘Nicander’ o'i waith ceir ‘Hanes Bywyd Dafydd Ionawr’ gan R. O. Rees a thraethawd gan Ieuan Gwynedd ar ‘Athrylith a Gweithiau Dafydd Ionawr’;
  • Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru 265;
  • Oxford Dictionary of National Biography (gan J. E. Lloyd );
  • Hanes Llenyddiaeth Gymreig, 1651–1850 . [1893?] , 481-8.

Awdur:

David Gwenallt Jones, M.A., (1899-1968), Aberystwyth