RHYS WYN ap CADWALADR (fl. c. 1600), o'r Giler, Ysbyty Ifan, sir Ddinbych, bardd

Enw: Rhys Wyn ap Cadwaladr
Rhiant: Cadwaladr Wynne
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Elwyn Evans

ail fab Cadwaladr ap Morris Cethin o'r Foelas. Ceir rhai englynion a chywyddau o'i waith mewn llawysgrifau, yn eu plith farwnad i'w fab yn Llanst MS. 54 (259) a chywydd ymryson â Thomas Prys yn Jes. Coll. MS. 12 (319) a NLW MS 3047C (84). Yn yr un llawysgrifau ceir dau gywydd ateb iddo yntau gan Thomas Prys a chywydd dychan iddo gan Huw Machno. Yn Llanstephan MS 49 (61) a B.M. Add. MS. 14966 (576) ceir cywydd cymod rhyngddo ef a Siôn Phylip o waith Edmwnd Prys. Ceir y rhelyw o'i waith yn y llawysgrifau canlynol: NLW MS 253A (284), NLW MS 644B (89), NLW MS 836D (38), NLW MS 1553A (416, 435, 450, 525), NLW MS 1578B (402), NLW MS 5545B (187); NLW MS 3051D (711); Cwrtmawr MS 22B (228); Cardiff MSS. 19 (459), 23 (240, 410), 84 (1083); B.M. Add. MSS. 14, 874 (178), 14, 894 (105). Yn ôl J. E. Griffith, Pedigrees, 189, lle y ceir ei achau, bu farw 23 Chwefror 1607 yng Nghaer a chafodd ei gladdu yno yn eglwys y Santes Fair.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.