Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



RHYS , IFAN THOMAS ( fl. canol y 18fed g. ), bardd ; g. yn Llwyndafydd ym mhlwyf Llandysilio , sir Aberteifi , yn fab i Thomas Rees James . Symudodd o Lwyndafydd ac ymsefydlodd yn Llanarth yn yr un sir. Crydd oedd wrth ei alwedigaeth. Cyfansoddodd farwnad ar farwolaeth Jenkin Jones [q.v.] o Lwynrhydowen . Cyhoeddwyd hi yn Hymnau … o waith y Diweddar Barchedig Mr. Jenkin Jones , 1768 . Cyhoeddwyd (ail arg.) ei gân, Y Maen Tramgwydd , yn 1799 , ac ymddangosodd casgliad o'i weithiau yn 1842 yn Diliau'r Awen , dan olygiaeth W. H. Griffiths .

Llyfryddiaeth:

  • Griffith Jones (Glan Menai) , Enwogion Sir Aberteifi , 1868 ;
  • D. J. Davies , Hanes, Hynafiaethau, ac Achyddiaeth Llanarth, Henfynyw, Llanllwchaiarn, a Llandyssilio-gogo , 1875; arg. arall, 1930 ;
  • Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru , ii, 473-4;
  • Notable Welshmen (1700–1900) , 1908 ;
  • bywgraffiad yn Diliau'r Awen, sef, Crynodeb o Waith Awenyddol…Evan Thomas Rhys…ac eraill , 1842 ;
  • Enwogion Cymru. A Biographical Dictionary of Eminent Welshmen , 1852 ;
  • C. Ashton , Hanes Llenyddiaeth Gymreig, 1651–1850 . [1893?] ;
  • The Letters of Lewis, Richard, William, and John Morris, of Anglesey, (Morrisiaid Môn) 1728-1765 , 1907–9 , ii, 392.

Awdur:

Griffith Milwyn Griffiths, M.A., Aberystwyth