RHYS NANMOR (fl. 1480-1513), cywyddwr

Enw: Rhys Nanmor
Rhiant: Nest ferch Owen ab Ierwerth
Rhiant: Maredudd ab Ieuan ab Dafydd Tudur
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cywyddwr
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Mary Gwendoline Ellis

Hanoedd o sir Feirionnydd (bellach mae Nanmor yn Sir Gaernarfon) a cheir ei ach yn Peniarth MS 268 (585), â Dwnn, ii, 284; 'Rhys Nanmor penkerdd o Brydydd ab Maredudd ab Ieuan ab Dafydd Tudur, etc. Mam Rhys Nanmor Nest v. Owen ab Ierwerth etc.' Dywedir ei fod yn ddisgybl i Ddafydd Nanmor, ond nid oes brawf ei fod yn perthyn iddo. Bardd Syr Rhys ap Thomas o Abermarlas (1449 - 1525) ydoedd yn bennaf, a chanai iddo rhwng 1485 a 1513. Ni ellir amseru dim o'i ganu ar ôl 1513. Canodd farwnad i'r tywysog Arthur, mab hynaf Harri VII , yn 1502, a'r Awdl Fraith i groesawu Harri VIII i'r orsedd yn 1509. Canwyd marwnad iddo gan Lewys Môn, a fu farw yn 1527. Dywedir ynddi mai yn Maenor Fynyw, sef Tŷ Ddewi, y trigai Nanmor. Nid oes gofnod iddo fyw yn y gogledd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.