RHYS, MORGAN JOHN ('Morgan ab Ioan Rhus'; 1760 - 1804), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ac awdur

Enw: Morgan John Rhys
Ffugenw: Morgan ab Ioan Rhus
Dyddiad geni: 1760
Dyddiad marw: 1804
Priod: Ann Rhys (née Loxley)
Rhiant: Elizabeth Rhys
Rhiant: John Rhys
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: John James Evans

Ganwyd 8 Rhagfyr 1760, pedwerydd mab John ac Elizabeth Rees, 'Graddfa,' ffermdy ger Llanbradach, Morgannwg. Bu yn ysgol D. Williams (1709 - 1784), ac yng Nghaerfyrddin, a bu'n cadw ysgol rad i blant ei ardal rhwng 1780 a 1786. Derbyniwyd ef i eglwys y Bedyddwyr yn Hengoed, ac aeth i athrofa Bryste. Cafodd alwad i eglwys Pen-y-garn, ger Pontypŵl, a bu'n weinidog arni o Hydref 1787 hyd Fehefin 1791.

Pan dorrodd y chwyldro allan yn Ffrainc, credai Rhys fod y Ffrancwyr wedi blino ar ormes brenhinoedd ac offeiriaid Pabaidd ac y byddent yn dyheu am ryddid yr Efengyl. O'r herwydd sefydlodd ef a nifer o gyfeillion iddo gymdeithas i roi'r Beibl i'r Ffrancwyr, ac aeth drosodd i Baris yn Awst 1791 a rhentu ystafell i bregethu'r Efengyl ynddi, a dosbarthu Beiblau 'n rhad i'r bobl. Ond torrodd y rhyfel allan; dychwelodd Rhys i Gymru, a bu'n teithio trwy'r wlad gan sefydlu cymdeithasau er cael arian i argraffu'r Beiblau Ffrangeg newydd.

Yn Chwefror 1793 cychwynnodd ei Cylchgrawn Cynmraeg; pum rhifyn a ymddangosodd, a'r rheini o dair gwasg wahanol. Ymdrinir yn y Cylchgrawn â phynciau'r dydd, megis heddwch, y fasnach mewn caethion, y genhadaeth dramor, ysgolion Sul ac ysgolion dyddiol, a rhyddid crefyddol a gwleidyddol. Yr oedd Rhys yn Rhyddfrydwr cadarn, o blaid diwygio'r Senedd a dileu breiniau dosbarth a'r gwastraff arian ar ryfeloedd a llwgrwobrwyo. Mawr oedd ei sêl dros addysg; ef oedd y cyntaf i amlinellu cyfundrefn o ysgolion Sul i Gymru, ac i bleidio dysgu Saesneg trwy gyfrwng y famiaith.

Oherwydd yr erlid mewn crefydd a gwleidyddiaeth a oedd ym Mhrydain, ymfudodd Rhys i America, a glaniodd yng Nghaerefrog Newydd ar 12 Hydref 1794. Teithiodd lawer yn nhaleithiau'r deau a'r gogledd-orllewin, gan bregethu'r Efengyl a thraethu ar bynciau hoff gan ei galon, megis heddwch, caethwasanaeth, y genhadaeth dramor, a rhyddid mewn gwlad ac Eglwys. Dychwelodd i Philadelphia yn 1796, a phriodi Ann, merch i'r cyrnol Benjamin Loxley. Yr oedd yn ei fryd sefydlu gwladfa Gymreig yng ngogledd America, a ffurfiwyd cwmpeini Cymreig i'r perwyl hwnnw. Prynodd ddarn o dir yng ngogledd-orllewin swydd Somerset; galwyd y wladfa newydd yn Cambria, a'r brif dref yn 'Beula.' Yma fe sefydlodd Rhys wasg argraffu, ysgol rad, llyfrgell, ac eglwys newydd neu eglwys Gristnogol lle y câi pobl o bob enwad gyd-addoli a chyd-gymuno â'i gilydd. Yn 1799 cychwynnodd bapur newydd o'r enw The Western Sky. Yn 1799 symudodd o Beula i Somerset, prif dref swydd Somerset, a dyrchafwyd ef yn ustus heddwch ac yn farnwr. Yn nyddiau parch ac anrhydedd bu Rhys farw ar 7 Rhagfyr 1804, a chladdwyd ef yn Somerset, Pennsylfania. Cynnwys ei weithiau ryw 20 o bamffledi Cymraeg a 10 o rai Saesneg, heblaw'r cylchgronau a'r newyddiaduron. Yn y rhain, ac yn enwedig yn ei areithiau a'i bregethau, gwelir ei angerdd dros ryddid a'i bybyrwch o blaid y gwan a'r gorthrymedig.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.