RHYS GOCH GLYNDYFRDWY (fl. c. 1460), bardd yr uchelwyr

Enw: Rhys Goch Glyndyfrdwy
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd yr uchelwyr
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: David James Bowen

Fel Guto'r Glyn, canodd yntau gywydd mawl i bum mab Llywelyn ap Hwlcyn o Fôn. Yr oedd cysylltiadau rhwng disgynyddion Llywelyn a theulu Pilstwn, a cheir cywydd marwnad gan Rys Goch i Siôn Pilstwn, aer Emrall. Y mae ei gywydd hiraeth am Rosier ap Siôn o Forgannwg yn ddiddorol am ei fod yn cynnwys cyfeiriad at gywydd Gruffydd Llwyd i yrru'r haul annerch y dalaith. Adlewyrchir anhrefn ei gyfnod mewn cywydd arall a ganodd i feibion Ieuan Fychan ab Ieuan ab Adda a garcharwyd yng nghastell y Drewen gan Risiart Trefor. Canodd hefyd gywyddau gofyn a serch.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.