RHYS, DAVID, THOMAS, and MARY, dau frawd a chwaer yn Llanbrynmair yn y 19eg ganrif, rhigymwyr a baledwyr

Enw: David Rhys
Galwedigaeth: rhigymwyr a baledwyr
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio; Barddoniaeth; Crefydd
Awdur: Elwyn Evans

Yr oedd DAVID (1742 - 1824) yn saer; cyfansoddai gerddi a charolau poblogaidd; yr oedd yn gerddor da ac yn arweinydd côr yr eglwys; bu farw ym Mhenygeulan. Yr oedd THOMAS (1750/51 - 1828) yn nodedig am ei ffraethineb ac am ei gerddi brathog; bu farw yn y Bont. Cyfansoddai MARY (1744? - 1842) gerddi hefyd, ond yr oedd yn fwy adnabyddus fel cantores. Hwy oedd bron yr olaf o'r canwyr cerddi a charolau yn Sir Drefaldwyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.